Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth,
Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg,
Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol,
Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn rhyddhau'r datganiad hwn ar y cyd er mwyn adlewyrchu'r materion trawsadrannol a godwyd gan y Comisiynydd Plant, Comisiynydd y Gymraeg a'n cyfeillion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â threfniadau cludo ar gyfer dysgwyr ôl-16. 

Rydym yn cytuno bod y ddeddfwriaeth bresennol sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gludo dysgwyr o oedran ysgol statudol ar sail pellter, cymhwyster a diogelwch, yn gweithio'n dda yn gyffredinol. Wedi dweud hynny, gwyddom fod pryder cynyddol ymhlith dysgwyr ôl-16 pan fo gan yr awdurdodau lleol ddisgresiwn dros drefniadau teithio.

Gwyddom fod penderfyniadau ariannol anodd yn wynebu awdurdodau lleol a bod hynny’n effeithio ar drefniadau teithio disgresiynol mewn rhai awdurdodau lleol. Mae hynny’n golygu bod goblygiadau i bob dysgwr ôl-16.

Rydym wedi cytuno, felly, i fwrw ymlaen ag adolygiad er mwyn nodi'r holl faterion dan sylw a sut i'w datrys mewn ffordd gost-effeithiol a chynaliadwy. Nid yw'n dilyn mai mater i Lywodraeth Cymru fydd datrys yr holl faterion a nodir.

Gwyddom fod ymrwymiad wedi'i wneud i fynd ati eleni i adolygu'r canllawiau ar deithio gan ddysgwyr ac i ymgynghori yn eu cylch, ond ni fyddwn yn gwneud hynny bellach nes y bydd canfyddiadau'r adolygiad yn glir.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen.