Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Yn gynharach eleni, comisiynais adolygiad o Sector Development Wales Partnership (SDWP) sy'n masnachu fel Diwydiant Cymru ac sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Amcan yr Adolygiad oedd sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gwasanaethau a'r cyngor pendant gorau gan y sectorau y mae Diwydiant Cymru yn ymdrin â nhw mewn ffordd sy’n cyd-fynd ag amodau economaidd 2025.
Sefydlwyd Diwydiant Cymru ym mis Ebrill 2013 o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Yn gwbl atebol i Weinidogion Cymru, mae Diwydiant Cymru yn gwmni cyfyngedig trwy warant o dan berchnogaeth lwyr. Diwydiant Cymru oedd yr unig weithredwr a gwarantwr ar gyfer tri fforwm sector presennol: Fforwm Modurol Cymru, Awyrofod Cymru a Technology Connected (EstNet gynt). Cafodd Diwydiant Sero Net Cymru ei ymgorffori ym mis Rhagfyr 2022 a'i ychwanegu at y portffolio.
Mae amcanion Cylch Gwaith Diwydiant Cymru ar gyfer Tymor y Llywodraeth (2022-2026) yn cynnwys darparu cyngor pendant i gefnogi polisi economaidd a phrosiectau penodol Llywodraeth Cymru, hyrwyddo cyfleoedd cydweithredu a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, gwybodaeth am y sector, a chefnogi digwyddiadau masnach allweddol yn y DU a thramor. Mae hefyd yn darparu llywodraethu a goruchwyliaeth ariannol ar gyfer fforymau'r sector, gydag ymrwymiad i leihau dibyniaeth ar gyllid y llywodraeth. Yn 2025-26 darparodd Llywodraeth Cymru gyfanswm cyllid grant o £837,000 i Diwydiant Cymru i gyflawni'r amcanion hyn.
Fel rhan o'r Adolygiad, roedd angen gwneud argymhellion ar opsiynau ar gyfer dyfodol Diwydiant Cymru y tu hwnt i fis Mawrth 2026. Edrychwyd ar:
- I ba raddau y mae Grŵp Diwydiant Cymru yn cyflawni ei gylch gwaith fel y nodir yn llythyr cylch gwaith Tymor y Llywodraeth a'r cynlluniau busnes blynyddol.
- A yw strwythur presennol y grŵp a'r ffocws ar sectorau yn briodol yn yr amgylchedd gwleidyddol ac economaidd sydd ohoni.
- A yw trefniadau cyflawni a llywodraethu presennol y Grŵp yn sicrhau'r gwerth gorau am arian o ran cefnogi ei aelodau, rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru.
- Opsiynau cyflenwi amgen a allai ddarparu'r swyddogaethau cyfredol i gyd, neu rai ohonynt, sy'n cyd-fynd â chanfyddiadau'r adolygiad.
Ers i'r strwythur a'r prosesau llywodraethu presennol gael eu llunio yn 2013, mae'r sefyllfa economaidd ac ariannol wedi newid yn ddramatig ac felly daeth yr Adolygiad i'r casgliad nad oedd modd cynnal y status quo.
Mae canfyddiadau'r Adolygiad, yr wyf yn eu derbyn yn llawn, yn cynnwys y canfyddiad ei bod hi'n bryd i ni ystyried dull gwahanol. Bydd Llywodraeth Cymru, ar ddiwedd cytundeb presennol tymor y llywodraeth, yn dileu ei hun fel unig warantwr Diwydiant Cymru ac yn diddymu'r cwmni. Dros y chwe mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Diwydiant Cymru, yn ymgysylltu'n weithredol â'r fforymau yn unigol i benderfynu ar y dull gorau o barhau i ddarparu cyngor sectoraidd pwrpasol. Byddwn yn ystyried trosglwyddo i strwythur neu riant-endid amgen, cymorth grant ar gyfer gweithgarwch cyflenwi pwrpasol a stopio cymorth lle mae'r economi wedi symud ymlaen neu lle mae fforymau yn hunan-ariannu a/neu mae ganddynt opsiynau amgen. Mae'r cynlluniau penodol hyn eisoes ar waith fel rhan o'r Adolygiad, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i dderbyn cyngor sectoraidd pendant gan sefydliadau aelodaeth yn y dyfodol.
Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i Diwydiant Cymru, i'r Cadeirydd, yr Athro Keith Ridgway, a'r fforymau a’u byrddau a'u cadeiryddion byrddau priodol (rhai'r gorffennol a rhai'r presennol). Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Diwydiant Cymru, y fforymau a'r rhanddeiliaid i ddarparu’r gefnogaeth briodol, heb gyfyngu ar opsiynau ar gyfer Llywodraeth yn y dyfodol.
