Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 18 Tachwedd 2013, cyhoeddais fy mod wedi gofyn i’r Athro Syr Ian Diamond, Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen, i gadeirio Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru. Hefyd, cyhoeddais y byddai panel arbenigol yn cael ei sefydlu i gynorthwyo Syr Ian a, gan gadw pwysigrwydd a chwmpas eang yr Adolygiad mewn cof, y baswn yn gwahodd pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i enwebu unigolion i ymuno â Phanel yr Adolygiad.

Dechreuwyd ar yr Adolygiad ym mis Ebrill 2014. Ar 18 Rhagfyr 2015, cyhoeddais adroddiad interim Panel yr Adolygiad. Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb ffeithiol o’r dystiolaeth a ystyriwyd gan y Panel rhwng mis Ebrill 2014 a mis Medi 2015. Mae’r Adolygiad yn mynd rhagddo’n dda a bydd Syr Ian yn darparu ei adroddiad  terfynol erbyn mis Medi 2016.

Wrth gyflawni ei waith, mae Panel yr Adolygiad wedi derbyn amrywiaeth o dystiolaeth mewn perthynas â sgiliau a’r economi, addysg bellach a hyfforddiant galwedigaethol. Mae llawer o’r dystiolaeth hon wedi pwysleisio’r angen am ffordd fwy cydgysylltiedig o weithio rhwng addysg bellach ac uwch, a gwell llwybrau datblygu rhwng y ddau hefyd. Credaf y byddai’n ddefnyddiol pe gallai Panel yr Adolygiad ystyried y materion hyn yn fanylach fel rhan o’i gylch gwaith. I’r perwyl hwn, rwyf wedi cymeradwyo ymestyn cylch gorchwyl yr Adolygiad i gynnwys y canlynol:

  • Cynghori ar y canlynol, a gwneud argymhellion lle bo hynny’n briodol:
    • cymorth ariannol i fyfyrwyr a chyllido darpariaeth addysg uwch mewn sefydliadau sy’n ymwneud â rhaglenni lefel mynediad a sylfaen. 
    • cymorth ariannol i fyfyrwyr a chyllido darpariaeth addysg uwch mewn sefydliadau sy’n ymwneud â thystysgrifau cenedlaethol uwch, diplomâu cenedlaethol uwch, graddau sylfaen a graddau y mae eu dyfarniadau canolraddol neu derfynol yn cael eu cyfrif fel prentisiaethau a/neu’n cynnwys elfen sylweddol o ddarpariaeth / asesu mewn gweithleoedd. 
    • y ffurf fwyaf effeithiol/priodol ar drefniadau achredu, breinio a dilysu rhwng sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach.

Bydd hyn yn galluogi Panel yr Adolygiad i wneud argymhellion gan roi sylw llawnach i’r cysylltiadau rhwng addysg bellach ac addysg uwch.  

Mae’r unigolion canlynol, sydd ag arbenigedd yn y materion hyn, wedi cytuno i fod yn aelodau cyfetholedig o Banel Addysg Bellach yr Adolygiad.

  • Judith Evans, Cadeirydd Colegau Cymru/Colleges Wales.  Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg y Cymoedd;
  • Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr.  Penodwyd yn Hyrwyddwr Sgiliau gan Lywodraeth Cymru yn 2010.  Aelod o Fwrdd Strategaeth Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol De-Orllewin Cymru. Aelod o Fwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Bydd y Panel Addysg Bellach yn gweithredu fel is-grŵp i brif Banel yr Adolygiad. Bydd y cynrychiolwyr canlynol o brif Banel yr Adolygiad hefyd ar y Panel Addysg Bellach:

  • Yr Athro Syr Ian Diamond, (Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen a Chadeirydd Panel yr Adolygiad o Addysg uwch);
  • Glyn Jones OBE (Prif Swyddog Gweithredol, Grŵp Llandrillo Menai; Aelod o Fwrdd Colegau Cymru; Aelod o Banel yr Adolygiad o Addysg Uwch);
  • Gary Griffiths (Cyn-Bennaeth Rhaglenni Gyrfaoedd Cynnar, Airbus UK; ac Aelod o Banel yr Adolygiad o Addysg Uwch;
  • Rob Humphreys, CBE (Cyfarwyddwr Cymru, y Brifysgol Agored; Is-Gadeirydd Prifysgolion Cymru; Aelod o Banel yr Adolygiad o Addysg Uwch).

Atodir y Cylch Gorchwyl diwygiedig llawn ar gyfer yr Adolygiad yn Atodiad A.
Anogaf bobl â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud â’r cylch gwaith estynedig i anfon eu sylwadau ymlaen at Syr Ian. Dylid anfon gohebiaeth, yn y lle cyntaf ar flwch post yr Adolygiad o Addysg Uwch: HEReview@cymru.gsi.gov.uk.


Atodiad A

Cylch Gorchwyl y Panel Adolygu

Bydd y Panel Adolygu’n cynnwys Cadeirydd ac aelodau, sy’n arbenigwyr profiadol yn eu maes ac sydd â dealltwriaeth drylwyr o faterion yn ymwneud â chyllido addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr.

Rôl:

Gofynnir i’r Panel gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r trefniadau cyllido Addysg Uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr. Bydd yn dechrau ar ei waith yn y Gwanwyn 2014, gan baratoi adroddiad ar gyfer y Gweinidog Addysg a Sgiliau erbyn mis Medi 2016. Disgwylir i’r adroddiad hwnnw gynnwys cyngor clir, ac argymhellion y mae’r gost o’u gweithredu wedi ei hamcangyfrif, ar gyfer cyllido’r sector Addysg Uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr yng Nghymru yn y dyfodol.  

Bydd yn rhaid i argymhellion y Panel fod yn ymarferol, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.  

Ffocws:

Bydd yr Adolygiad yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â’r canlynol:

  • hyrwyddo symudedd cymdeithasol a sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg uwch;
  • hyrwyddo cyfleoedd dysgu ôl-radd yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru;
  • cyllido addysg uwch yng ngoleuni’r cyfyngiadau parhaus ar wariant cyhoeddus; 
  • polisïau ffioedd dysgu ar gyfer addysg ran-amser ac addysg amser llawn;
  • polisi a threfniadau cyllido Addysg Uwch ar draws ffiniau;
  • trefniadau cyllid myfyrwyr (gan gynnwys cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gyda phwyslais ar gynorthwyo dysgwyr o gefndiroedd incwm isel a chymunedau mwyaf difreintiedig Cymru); 
  • dulliau cyllido (gwariant a reolir yn flynyddol (AME), cyllid sydd bron yn arian parod a chyllid nad yw’n arian parod);
  • rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o ran gweithredu trefniadau cyllid myfyrwyr;
  • dyled myfyrwyr;
  • cynghori ar y canlynol, a gwneud argymhellion lle bo hynny’n briodol:
    • cymorth ariannol i fyfyrwyr a chyllido darpariaeth addysg uwch mewn sefydliadau sy’n ymwneud â rhaglenni lefel mynediad a sylfaen. 
    • cymorth ariannol i fyfyrwyr a chyllido darpariaeth addysg uwch mewn sefydliadau sy’n ymwneud â thystysgrifau cenedlaethol uwch, diplomâu cenedlaethol uwch, graddau sylfaen a graddau y mae eu dyfarniadau canolraddol neu derfynol yn cael eu cyfrif fel prentisiaethau a/neu’n cynnwys elfen sylweddol o ddarpariaeth / asesu mewn gweithleoedd. 
    • y ffurf fwyaf effeithiol/priodol ar drefniadau achredu, breinio a dilysu rhwng sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach.

Y Prif Ystyriaethau:

Bydd yn rhaid i’r adolygiad ystyried opsiynau a materion cyllido ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir, gan gynnwys unrhyw botensial ar gyfer gweithredu a hyrwyddo cynlluniau cynilo er mwyn creu model mwy cynaliadwy ar gyfer cyllido Addysg Uwch yn y dyfodol, gan helpu i leihau lefelau dyled myfyrwyr.

Hefyd bydd angen i’r adolygiad ystyried:

  • y ddeddfwriaeth bresennol a’r opsiynau ar gyfer ei diwygio; 
  • goblygiadau ariannol unrhyw fodelau arfaethedig o safbwynt Llywodraeth Cymru, Trysorlys ei Mawrhydi, y myfyrwyr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r sector Addysg Uwch yng Nghymru; 
  • systemau cyflenwi gweithredol sy’n gysylltiedig â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a chyrff eraill yn y DU;
  • dulliau eraill o weithredu polisi sy’n cael eu defnyddio gan lywodraethau eraill y DU neu lywodraethau tramor; 
  • y goblygiadau trawsffiniol ar gyfer unrhyw newidiadau polisi a gynigir ar gyfer Cymru (gan gynnwys unrhyw broblemau a allai godi o ran cymhwysedd deddfwriaethol);
  • y sgiliau y mae eu hangen yng Nghymru;
  • darpariaeth ôl-radd a phryderon a/neu ofynion y sector diwydiant; 
  • i ba raddau y mae’r polisi a threfniadau cyllido presennol yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar addysg uwch, ac unrhyw beth arall y gellid ei wneud i wella’r sefyllfa;
  • datblygiadau perthnasol yn y sector addysg bellach, er enghraifft Addysg Uwch mewn gweithgarwch Addysg Bellach.

Dulliau Gweithredu:

Bydd y Panel yn casglu ac yn gwerthuso’r data a’r ymchwil sydd ar gael, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth arall. Mae’n bosibl y bydd angen i’r Panel gomisiynu ymchwil i lenwi’r bylchau yn y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd angen iddo weithio’n agos â rhanddeiliaid.  

Bydd yn rhaid i’r Panel roi sylw dyledus i flaenoriaethau pellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru o ran Addysg Uwch yng Nghymru, fel y’u nodir yn y Datganiad Polisi ar Addysg Uwch a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2013 sydd ar gael yn y dolenni perthnasol.

Llywodraethu a ffyrdd o weithio:

Disgwylir i aelodau’r Panel gadw at y saith egwyddor ar gyfer bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd, a dangos arweinyddiaeth). 

  • Rhaid i unrhyw gasgliadau ac argymhellion fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ddiduedd, ac wedi eu hystyried yn drylwyr ac yn fanwl. 
  • Cedwir cofnodion o gyfarfodydd a gweithgareddau’r Panel Adolygu. Fodd bynnag, cynhelir trafodaethau o dan brotocol cyfrinachedd er mwyn hwyluso dadlau diffuant ac agored.