Neidio i'r prif gynnwy

Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”) wedi cynnal arolwg o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rwyf wedi penderfynu cytuno ar yr argymhellion a geir yn adroddiadau’r Comisiwn ar gyfer pob ardal awdurdod lleol. Byddant yn cael eu gweithredu heb eu haddasu.

Cynhaliwyd yr arolwg yn unol â Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc 2013. Mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn i gynnal arolwg o bob un o’r 22 Prif Gyngor yng Nghymru bob 12 mlynedd. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad a'i argymhellion i Weinidogion Cymru i'w penderfynu. Wrth gyflawni ei ddyletswyddau ac wrth gynnal unrhyw adolygiad, rhaid i'r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Ar ôl ystyried Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol ardal Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, ynghyd â’r sylwadau cysylltiedig a dderbyniwyd, rwyf wedi penderfynu cytuno â’r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad y Comisiwn. Byddant yn cael eu gweithredu heb unrhyw addasiad. 

Ar ôl ystyried Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol ardal Sir Gaerfyrddin, ynghyd â’r sylwadau cysylltiedig a dderbyniwyd, rwyf wedi penderfynu cytuno â’r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad y Comisiwn. Byddant yn cael eu gweithredu heb unrhyw addasiad.

Ar ôl ystyried Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwyf wedi penderfynu cytuno â’r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad y Comisiwn. Byddant yn cael eu gweithredu heb unrhyw addasiad.

Rwyf wedi ysgrifennu at Arweinwyr a Phrif Weithredwyr y tri awdurdod lleol i’w hysbysu o’m penderfyniadau.

Bydd gwaith yn nawr ddechrau i symud ymlaen â llunio’r Gorchmynion sy’n ofynnol i weithredu’r penderfyniadau yma, gyda’r newidiadau’n dod i rym yn barod ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol Mai 2027.

Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu fel gorchmynion lleol, ar y sail eu bod yn berthnasol i ardal benodol yn unig.