Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r pumed o’r diweddariadau hynny.

Ar 11 Awst, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau, mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Ceredigion i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau, mewn perthynas â Sir Ceredigion.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Ceredigion ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn awr i roi’r penderfyniadau hyn ar waith drwy Orchymyn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Parc yr enw Cymraeg Parc. Bydd yr enw Cymraeg Y Parc yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn na ddylid newid ward etholiadol Bedlinog. Bydd yr enw Cymraeg Bedlinog a Threlewis a’r enw Saesneg Bedlinog and Trelewis yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Sir Ceredigion

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Ceulanamaesmawr yr enw unigol Ceulanamaesmawr. Bydd yr enw unigol Ceulan a Maesmawr yn cael ei roi i’r ward etholiadol. 
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol  Llanarth yr enw unigol Llanarth. Bydd yr enw unigol Llannarth yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Aberporth a’r Ferwig yr enw Cymraeg Aberporth a’r Ferwig. Bydd yr enw Cymraeg Aber-porth a’r Ferwig yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Gogledd Llandysul a Throedyraur yr enw Cymraeg Gogledd Llandysul a Throedyraur. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur yn cael ei roi i’r ward etholiadol.