Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r chweched o’r datganiadau hynny.

Ar 8 Medi, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Ddinbych i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau, mewn perthynas â Sir Ddinbych.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Ddinbych ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Benfro i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau, mewn perthynas â Sir Benfro.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Benfro ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Sir Ddinbych

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw Efenechtyd. Bydd yr enw unigol Efenechdyd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Prestatyn Gallt Melyd. Bydd yr enw Cymraeg Prestatyn Alltmelyd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Orllewin Prestatyn. Bydd yr enw Cymraeg De-orllewin Prestatyn yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Dwyrain Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain y Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg De’r Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Orllewin Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg De-orllewin y Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gorllewin Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg Gorllewin y Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Trellewelyn Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg Y Rhyl Trellewelyn yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Sir Benfro

  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford West yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Gorllewin. Bydd yr enw Cymraeg Gorllewin Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford East yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Dwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford: North yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Gogledd. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford: Central yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Canol. Bydd yr enw Cymraeg Canol Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Narberth: Rural yr enw Cymraeg Arberth: Gwledig. Bydd yr enw Cymraeg Arberth Wledig yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Narberth: Urban yr enw Cymraeg Arberth: Trefol. Bydd yr enw Cymraeg Arberth Drefol yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw etholiadol unigol The Havens. Bydd yr enw Cymraeg Yr Aberoedd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg St Ishmael yr enw Cymraeg Llanisan yn Rhos. Bydd yr enw Cymraeg Llanisan-yn-Rhos yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Pembroke Dock: Central yr enw Cymraeg Doc Penfro: Canol. Bydd yr enw Cymraeg Canol Doc Penfro yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Pembroke Dock: Market yr enw Cymraeg Doc Penfro: Farchnad. Bydd yr enw Cymraeg Doc Penfro: Y Farchnad yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Haverfordwest: Castle yr enw Cymraeg Hwlffordd: Castell. Bydd yr enw Cymraeg Hwlffordd: Y Castell yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Haverfordwest: Priory yr enw Cymraeg Hwlffordd: Priordy. Bydd yr enw Cymraeg Hwlffordd: Y Priordy yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Lampeter Velfrey yr enw Cymraeg Llanbedr Efelffre. Bydd yr enw Cymraeg Llanbedr Felffre yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Neyland: East yr enw Cymraeg Neyland: Dwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain Neyland yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Neyland: West yr enw Cymraeg Neyland: Gorllewin. Bydd yr enw Cymraeg Gorllewin Neyland yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Tenby: North yr enw Cymraeg Dinbych-y-Pysgod: Gogledd. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd Dinbych-y-pysgod yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Tenby South yr enw Cymraeg Dinbych-y-Pysgod: De. Bydd yr enw Cymraeg De Dinbych-y- pysgod yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Fishguard North East yr enw Cymraeg Abergwaun: Gogledd Ddwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd-ddwyrain Abergwaun yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Fishguard: North West yr enw Cymraeg Abergwaun: Gogledd Orllewin. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd-orllewin Abergwaun yn cael ei roi i’r ward etholiadol.