Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r seithfed o’r diweddariadau hynny.

Ar 16 Medi, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Torfaen i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiad mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gael yma. Mae’r addasiad i’r argymhellion hyn wedi’i nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Ynys Môn i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiad mewn perthynas â Sir Ynys Môn.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Ynys Môn ar gael yma. Mae’r addasiad i’r argymhellion hyn wedi’i nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn awr i roi’r penderfyniadau hyn ar waith drwy Orchymyn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Bwrdeistref Sirol Torfaen

  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Panteg. Bydd yr enw Cymraeg Pan-teg yn cael ei roi i’r ward etholiadol. Bydd yr enw Saesneg Panteg yn parhau.

Sir Ynys Môn

  • Cynigiodd y Comisiwn yr enw unigol Tref Cybi. Bydd yr enw unigol Caergybi yn cael ei roi i’r ward etholiadol.