Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Adolygiad annibynnol o wariant ysgolion yng Nghymru a gynhyrchwyd gan yr economegydd addysg, Luke Sibieta, yn adrodd am y cymhlethdodau niferus mewn perthynas ag ariannu ysgolion ledled Cymru. Argymhellodd y dylai fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol fod yn fwy cyson a thryloyw. Mewn ymateb, rydym wedi cynnal dadansoddiad trylwyr o fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol ledled Cymru i ddeall y cymhlethdodau a'r prosesau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â fformiwlâu cyllido ysgolion. 

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Adolygiad o Fformiwla Gyllido Ysgolion yng Nghymru, sy'n rhoi crynodeb o'r dadansoddiad hwn, ochr yn ochr ag argymhellion y byddwn yn eu cynnig i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad. 

Bydd yr adolygiad a'r argymhellion yn ein galluogi i ystyried sut y gellir gwella'r system i greu system ariannu decach ledled Cymru, er mwyn gallu sicrhau cyllido mwy tryloyw, cymaradwy a chyson ar draws ysgolion Cymru. 

Hoffwn ddiolch i'r awdurdodau lleol sydd wedi ein cynorthwyo yn yr adolygiad. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar draws y system i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig yn ddiweddarach eleni.