Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, daeth yr adolygiad i ben gan y panel Buddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol (HPEI), o dan arweiniad Mel Evans OBE, o’r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysg gweithwyr iechyd proffesiynol, ac a yw’n sicrhau’r canlyniadau iawn i Gymru a’n gwasanaeth iechyd.  

Gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion, ac rwyf wedi eu derbyn.  Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud rhagor o waith ar yr argymhelliad olaf – sef creu un corff ar gyfer cynllunio a datblygu’r gweithlu, a chomisiynu addysg a hyfforddiant.  
Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, dywedais yn glir bod angen newid, yn seiliedig ar un ffrwd gyllido hyblyg, yn rhydd o ffiniau mympwyol a hanesyddol.  Byddai’n rhaid i unrhyw drefniadau newydd sicrhau fod penderfyniadau ynghylch buddsoddi a chynllunio addysg a hyfforddiant yn seiliedig ar anghenion cleifion a’r boblogaeth leol ac agweddau holistaidd tuag at y gweithlu.  
Wrth ddatblygu’r gwaith hwn, mae angen inni sicrhau bod yr ateb, tra’n tynnu ar enghreifftiau o fannau eraill, yn iawn i Gymru.  
Mae yr Athro Robin Williams CBE, FRS, cyn is-ganghellor Prifysgol Abertawe, wedi cytuno i fynd ymlaen â’r gwaith o baratoi’r model newydd, gan gynnwys y costau a’r manteision.  

Mae gan Robin brofiad eang, sy’n cynnwys cymryd rhan yn y gwaith o gynnal trosolwg o’r rhaglen Sêr Cymru, rhaglen o fuddsoddiad gwerth £50 miliwn yn y sylfaen ymchwil yng Nghymru, a phrofiad fel cadeirydd y bwrdd cynllunio i gynhyrchu adroddiad annibynnol ar fodel ar gyfer y Coleg Ffederal –  Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bellach. Cafodd CBE yn 2004 am ei gyfraniad i waith ymchwil ac i addysg uwch, ac mae bellach yn gadeirydd y Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth yng Nghymru.  Mae Robin wedi gweithio ar sawl grŵp cynghori Gweinidogol ar ddatblygu economaidd ac addysg yng Nghymru, ac roedd yn aelod o’r grŵp a sefydlwyd i adolygu addysg uwch.  

Bydd Robin yn cael ei gynorthwyo gan dîm prosiect bychan o fewn Llywodraeth Cymru ac yn cael cymorth grŵp bychan o unigolion sydd â gwybodaeth arbenigol am agweddau ar weithlu’r GIG, ac yn darparu a chynllunio rhaglenni addysgu a hyfforddi, a’r cwricwlwm a rheoleiddio.  

Mae yr Athro Donna Mead OBE, is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Dr Alun Rees, is-lywydd cyntaf Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon, a’r Athro Ceri Phillips, pennaeth Coleg Gwyddorau Iechyd a Dynol Prifysgol Abertawe wedi cytuno i fod yn gynghorwyr arbenigol i Robin wrth i’r gwaith ddatblygu.  

Fel a gadarnhawyd yn fy natganiad diwethaf, bydd safbwyntiau ehangach y rhanddeiliaid yn  cael eu hystyried, a chaiff dulliau eu sefydlu i sicrhau bod datblygiadau yn cael eu rhannu â hwy ac y gofynnir am gyfraniadau fel y bo hynny’n addas.