Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio â chostau gofal plant. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i blant tair a phedair oed, y mae eu rhieni yn gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn.

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn parhau i ehangu, o ran nifer y teuluoedd sy’n manteisio ar y Cynnig a nifer y lleoliadau gofal plant sy’n cynnig lleoedd.

Mae’n bwysig bod darparwyr gofal plant yn cael eu talu ar gyfradd gynaliadwy o dan y Cynnig Gofal Plant. Canfu ymchwil, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021, fod y Cynnig Gofal Plant wedi cael effaith gadarnhaol ar broffidioldeb i fwy na dwy ran o dair o ddarparwyr gofal plant, ond bu galwadau i adolygu’r gyfradd fesul awr a delir am ofal plant drwy’r Cynnig, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru.

Yn dilyn adolygiad o’r gyfradd fesul awr, rwyf yn cyhoeddi £6m o gyllid ychwanegol y flwyddyn i gefnogi cynnydd o 11% yn y gyfradd fesul awr, gan ei chodi o’r £4.50 yr awr bresennol i £5 yr awr o fis Ebrill. Byddwn hefyd yn darparu £1.5m o gyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith o alinio cyfraddau cyllido Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant ac yn rhoi buddsoddiad o £3.5m ychwanegol mewn gofal plant Dechrau’n Deg.

Bydd y cynnydd hwn yn helpu i wella cynaliadwyedd ar draws y sector gofal plant yng Nghymru, gan sicrhau y gall rhieni sy’n gweithio barhau i elwa o’r Cynnig Gofal Plant. Bydd hefyd yn galluogi’r ddarpariaeth barhaus o ofal ac addysg o ansawdd uchel, gan roi’r dechrau gorau oll mewn bywyd i blant. I gefnogi hyn, rwyf hefyd wedi ymrwymo i adolygu’r gyfradd o leiaf bob tair blynedd.

Yn ogystal â chynnydd yn y gyfradd fesul awr a delir am ofal plant, bydd yr uchafswm y gall lleoliadau godi am fwyd hefyd yn cynyddu o £7.50 i £9 y diwrnod, sy’n adlewyrchu’r cynnydd ym mhrisiau bwyd a phrisiau cyfleustodau ac ynni.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.