Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn cyflawni rôl bwysig gan roi llais i gleifion a monitro’r GIG ledled Cymru. Pan gawsant eu creu ym mis Ebrill 2010, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd y dylid adolygu Cynghorau Iechyd Cymuned ddwy flynedd wedyn. Rwyf wedi penderfynu y bydd yr adolygiad hwn yn dechrau ym mis Ebrill 2012 ac y caiff ei gynnal gan yr Athro Marcus Longley o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dyma gylch gorchwyl yr Adolygiad:

Gan gydweithio â rhanddeiliaid, gan gynnwys Cynghorau Iechyd Cymuned, Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector, Cydffederasiwn y GIG, Cyrff Iechyd megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn, bydd yr adolygiad:

  • yn archwilio sut caiff Cynghorau Iechyd Cymuned eu rheoli o’r bôn i’r brig ac, yn benodol, yn llunio argymhellion ar:
    • y strwythur gweithredol 
    • llinellau atebolrwydd gan gynnwys cysylltiadau â Llywodraeth Cymru
    • rôl a chyfrifoldebau Cyfarwyddwr y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned
    • y strwythur aelodaeth a’r prosesau penodi
    • gwneud defnydd effeithiol o Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector
  • yn argymell lle a sut mae angen inni ddatblygu Cynghorau Iechyd Cymuned, gan gynnwys yr aelodau, yn sefydliadau ‘proffesiynol’ sy’n cydweddu ag anghenion strategol ‘Law yn Llaw at Iechyd’
  • yn ystyried sut mae Cynghorau Iechyd Cymuned a Byrddau Iechyd yn cydweithio er lles pobl Cymru, gan gynnwys sut maent yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol
  • yn ystyried yr hyn rydym yn ei gael am ein harian a lle gall Cynghorau Iechyd Cymuned fod yn fwy effeithlon
  • yn nodi enghreifftiau o arfer da o fewn y Cynghorau Iechyd Cymuned y mae angen eu mabwysiadu’n ehangach a sut gellir gwneud hyn
  • yn ystyried ac yn llunio argymhellion ar ddatblygu eu rôl o fod yn “ffrind beirniadol” mewn perthynas â Byrddau Iechyd, gan gynnwys bod yn llais i gleifion
  • yn ystyried eu perthynas gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn  
  • yn ystyried sut dylid darparu’r Gwasanaeth Eiriolaeth yn y dyfodol.


Rwy’n rhagweld y caf adroddiad o’r adolygiad ym mis Mehefin. Yna bydd yna ymgynghori ffurfiol ar ei argymhellion dros yr haf.  Rhoddaf adroddiad ar gasgliadau’r adolygiad i’r Cynulliad yn yr hydref.