Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016



Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 12 Chwefror 2012, cyhoeddais fy mod wedi gofyn i Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gynnal adolygiad o Gynghorau Iechyd Cymuned (Saesneg yn unig). Heddiw rwy’n cyhoeddi papur ymgynghori ar y cynigion sy’n codi o’r adolygiad hwn. Hoffwn ddiolch i’r Athro Longley a’i dîm am gynhyrchu adroddiad manwl iawn.

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 24 Hydref ac 16 Ionawr ac mae copi ar wefan ymgynghori Llywodraeth Cymru – Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am ganlyniadau’r ymgynghoriad yn gynnar yn 2013.