Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy'n deillio o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Caiff y darpariaethau yn y cynllun presennol eu dosbarthu o dan gontract gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024. Mae'r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a gwelliannau amgylcheddol eraill.

Ei amcan cyffredinol yw cydnabod yr effaith negyddol ar gymunedau sy'n byw ger safle tirlenwi a'i nod yw gwrthbwyso rhai o'r effeithiau hynny drwy'r dulliau a nodir yn y cynllun. Er mwyn cyflawni hyn, dyrennir cyfran o'r refeniw a godir o'r dreth gwarediadau tirlenwi i'r cynllun, i'w ddyfarnu fel grantiau i brosiectau llwyddiannus. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae grantiau o £5,000 i £50,000 wedi bod ar gael mewn dau gylch ymgeisio blynyddol, gydag un prosiect sylweddol y flwyddyn yn cael cynnig cyllid o hyd at £250,000.

Mae cymunedau a phrosiectau sydd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff sy'n anfon o leiaf 2,000 tunnell o wastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, yn gymwys i wneud cais i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Cynhaliwyd adolygiad o Gynllun Cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â gofynion Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Cafodd yr adolygiad hwn ei lywio gan waith a wnaed gan Eunomia Research and Consulting ar ran Llywodraeth Cymru, sydd wedi mynd ati i geisio barn rhanddeiliaid fel rhan o'r dystiolaeth a gasglwyd ganddynt. 

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr adolygiad yn gadarnhaol iawn am y cynllun, sut y cafodd ei gyflawni, ei effaith a'r gwerth am arian y mae wedi'i ddarparu ers iddo ddechrau yn 2018.  Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos bod ystod eang o gymunedau wedi elwa ar y cymorth y mae'r cynllun wedi'i ddarparu, gan alluogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu flaenorol a chyfredol a nifer o flaenoriaethau polisi pwysig yn uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r dystiolaeth hefyd yn amlwg yn cefnogi parhau i'w ddarparu yn y tymor byr i ganolig. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ar ôl cynnal yr adolygiad ac ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol yn y tymor byr.  Fodd bynnag, byddaf yn ailystyried y dystiolaeth hon ac, o ffynonellau ehangach, i lywio'r gwaith o ddatblygu cynllun diwygiedig o fewn y 6 mis nesaf. 

Unwaith y bydd y dystiolaeth ychwanegol hon ar gael, fy mwriad yw diwygio'r cynllun i sicrhau ei fod yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu yn fwy effeithiol, a'i fod yn fwy hyblyg o ran ymateb i anghenion y cymunedau sy'n gymwys i gael cymorth drwyddo. Ar ôl i'r dystiolaeth ychwanegol ddod i law, bydd cynllun diwygiedig yn cael ei osod gerbron y Senedd a bydd gwaith yn dechrau i sicrhau y caiff ei gyflawni yn y dyfodol.

Gellir gweld cynnwys y cynllun cyfredol a gyhoeddwyd ar 28 Mawrth 2018 ar wefan y Senedd:

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen bresennol sy'n cyflawni’r cynllun ar gael ar wefan CGGC:

https://wcva.cymru/cy/cyllid/cynllun-cymunedau-y-dreth-gwarediadau-tirlenwi/

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi i roi gwybod i'r aelodau bod yr adolygiad wedi'i gwblhau, yn unol â gofynion Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 ac i nodi cyfeiriad y cynllun yn y dyfodol.