Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy llythyr i’r Aelodau ar 3 Chwefror, rwy’n ysgrifennu atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr adolygiad cyflym a gomisiynais o gynllun y Bathodyn Glas, gan fod y gwaith bellach wedi dod i ben.

Mae cynllun y Bathodyn Glas yn parhau i helpu tua 7% o boblogaeth Cymru i gyrraedd at wasanaethau a chyfleusterau, o gymharu â Lloegr a’r Alban lle mae llai na 5% o’r boblogaeth â Bathodynnau Glas. Yng Nghymru, mae’r meini prawf cymhwysedd ychydig yn ehangach na rhai Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Cymru hefyd yn wahanol ac yn flaengar wrth ganiatáu i bobl â nam gwybyddol ddefnyddio’r Cynllun. 

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am weinyddu cynllun y Bathodyn Glas yn eu hardaloedd, gan ddefnyddio meini prawf statudol i benderfynu pwy sy’n gymwys.  Maent yn cael eu cefnogi gan ganllawiau anstatudol gan Lywodraeth Cymru a phecyn cymorth i’w helpu i ddilysu ceisiadau. Mae’r pecyn cymorth yn defnyddio’r dystiolaeth sy’n cael ei darparu gan ymgeiswyr, ac nid yw’n disgwyl i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau meddygol.
Canfu’r adolygiad cyflym bod Lloegr a’r Alban eisoes wedi tynnu meddygon teulu o’r broses asesu, a’u bod yn defnyddio asesiadau meddygol annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau lleol i dynnu meddygon teulu o’r broses asesu, gan fod eu llwyth gwaith yn eithriadol o drwm ac nid yw gofyn iddynt helpu i weinyddu’r cynllun yn ddefnydd da o’u hamser.  

Mae nifer fawr o ymholiadau a cheisiadau wedi dod i law gan Aelodau’r Cynulliad ac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi’u siomi bod eu ceisiadau am Fathodynnau wedi’u gwrthod. Mae’r mater hwn wedi achosi cryn bryder i mi, ac fel rhan o’r adolygiad cyflym comisiynais y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol i adolygu’r ceisiadau a wrthodwyd mewn ardal sampl yn Abertawe. Gwelodd fod materion penodol yn codi mewn perthynas â’r defnydd o asesiadau meddygol, ac fe nodwyd meysydd lle gellid mireinio’r pecyn cymorth ymhellach i helpu mewn achosion o’r fath.

Rhaid i’r Cynllun gadw’i hygrededd a diwallu anghenion y bobl na fyddai fel arall yn medru cyrraedd at wasanaethau a chyfleusterau. Felly rwyf wedi penderfynu galw grŵp gorchwyl a gorffen ynghyd i ystyried y materion sy’n codi a rhoi argymhellion ynghylch ffyrdd o ddiwygio’r cynllun i sicrhau bod y rhai sydd ei angen yn medru cyrraedd at y gwasanaeth.

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau ynghylch aelodaeth a chylch gwaith y grŵp ac efallai bydd angen rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yn ystod toriad y Pasg.