Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y gwyddai’r aelodau, rhoddodd Deddf Cymru 2014 y pŵer i’r Senedd i sefydlu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). Fel y cytunwyd yn fframwaith gyllidol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016, cyflwynwyd CTIC ar 6 Ebrill 2019.

Mae CaThEM yn cadw’r cyfrifoldeb am gasglu a rheoli CTIC, ac fel rhan o’r broses weithredu, drafftiwyd a chyhoeddwyd Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CaThEM yn gynharach eleni. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn amlinellu’r gofynion, y graddfeydd amser a’r mesurau perfformiad ar gyfer gweithredu CTIC, a fydd yn sicrhau y rhoddir gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr yng Nghymru a galluogi CaThEM a Llywodraeth Cymru i ddiwallu eu cyfrifoldebau priodol yn ymwneud â gweithredu treth incwm Cymru.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a CaThEM wedi bod yn adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i sicrhau ei fod yn addas i’r diben wrth i CTIC symud i gam busnes fel arfer. Fel rhan o’r broses hon, gwnaed rhai newidiadau a diwygiadau bychan yn ogystal ag asesiad ehangach o drefniadau llywodraethu ac ariannol a darpariaeth iaith Gymraeg.    

Cyhoeddwyd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig ar wefannau Llywodraeth Cymru a Gov.UK