Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Cyllid a’r Gymraeg
Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi pŵer i'r Senedd bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC).
Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) ar gyfer gweithredu CTIC. Mae'n nodi'r gofynion, yr amserlenni a'r mesurau perfformiad. Bydd glynu at y CLG yn sicrhau gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr Cymru, ac yn caniatáu i CThEF a Llywodraeth Cymru gyflawni eu priod gyfrifoldebau wrth weithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru.
Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru a CThEF wedi cynnal adolygiad o'r CLG i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Fel rhan o'r broses hon, mae rhai newidiadau a diwygiadau wedi'u gwneud.
Y prif newidiadau a wneir i'r CLG yw:
- cynnwys cyfeiriad at ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn achos o'r fath nad oes Penderfyniad ar gyfer Cyfraddau Cymru;
- cynnwys gofyniad allweddol newydd ar gyfer cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd; a,
- diweddaru'r cyfeiriad at Weinidog Llywodraeth Cymru i gyfeirio at y “Gweinidog Cymru perthnasol” (“relevant Welsh Minister”) yn syml.
Mae dolen i’r CLG i’w chael yn: Cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer gweithredu cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEF - GOV.UK
