Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru’n cynnwys addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, addysg i oedolion a dysgu yn y gymuned. Mae pwysau o ran cyllid a heriau eraill wedi arwain at ddarpariaeth ehangach o wasanaethau gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 ac wedi gwneud y ffiniau hanesyddol a thraddodiadol yn llai eglur. Canlyniad hyn yw sefyllfa lle y caiff addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru ei ddarparu gan ddarparwyr amrywiol mewn lleoliadau amrywiol.

Mae’r trefniadau ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru wedi datblygu dros amser a chânt eu nodi mewn nifer o ddogfennau polisi a statudau. Mae hyn wedi ysgogi amryfal weithgareddau trosolwg gan gyrff amrywiol sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, CCAUC ac Estyn. Golyga hyn fod gwahanol drefniadau ar gyfer gwahanol fathau o ymgysylltu ynghyd â gwahanol lefelau o effeithiolrwydd wrth i nifer o swyddogaethau trosolwg gael eu cyflawni.

Mae trefniadau effeithiol ar gyfer rheoleiddio a chynnal trosolwg yn gwbl hanfodol i enw da ein system addysg yng Nghymru. Rwyf wedi nodi ynghynt y byddaf yn cychwyn adolygiad o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) cyn diwedd 2016. Wrth edrych tua’r dyfodol, ac yn sgil cychwyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 a’r system reoleiddio newydd y bydd yn ei chyflwyno; newidiadau i batrymau cyflenwi o fewn addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned; heriau tebygol y dyfodol o ran cyllid a chyllido; ac wrth baratoi ar gyfer adroddiad Adolygiad Diamond o’r trefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr, bernir ei bod hi’n amser priodol i adolygu’r cwmpas ar gyfer cysoni’n well y trefniadau ar gyfer cynnal trosolwg rhwng ac o fewn y sefydliadau sydd ynghlwm wrth ddarparu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol

Rwyf felly wedi trefnu y bydd yr Athro Ellen Hazelkorn, Cynghorydd Polisi i’r Awdurdod Addysg Uwch a Chyfarwyddwr, Uned Ymchwil Addysg Uwch, Sefydliad Technoleg Dulyn, yn cynnal adolygiad a fydd yn ystyried y trefniadau trosolwg presennol ac yn cyflwyno argymhellion ynghylch rheoleiddio a chynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n benodol ar swyddogaeth CCAUC. Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Athro Hazelkorn nodi a fydd angen deddfwriaeth ynghyd â threfniadau sefydliadol newydd neu ddiwygiedig ar gyfer cyflwyno trefniadau yn y dyfodol a allai ddeillio o’r gwerthusiad hwn. Caiff Cylch Gorchwyl yr adolygiad ei nodi isod.

Bydd yr Athro Hazelkorn yn cychwyn yr adolygiad ym mis Hydref ac yn adrodd yn ôl yn y gwanwyn.


Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygiad o Reoleiddio a Chynnal Trosolwg o Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol yng Nghymru, gyda chyfeiriad arbennig at rôl a swyddogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

1. Adolygu, dadansoddi a chofnodi’r trefniadau presennol ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, gan gynnwys:

  • cyllido addysg a hyfforddiant;
  • llywodraethu;
  • sicrhau ansawdd / safonau addysg a hyfforddiant;  
  • rheoli risg.

2. Cynghori ynghylch effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru drwy gyfeirio at wledydd eraill y DU, cymaryddion rhyngwladol perthnasol a thystiolaeth o waith ymchwil.

3. Cyflwyno argymhellion ynghylch cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn y dyfodol, gan gyfeirio’n benodol at swyddogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

4. Nodi a fydd angen deddfwriaeth ynghyd â threfniadau sefydliadol newydd neu ddiwygiedig ar gyfer cyflwyno trefniadau yn y dyfodol a allai ddeillio o’r gwerthusiad hwn.