Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 24 Mawrth. 

Mae cyfraddau achosion cyffredinol wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda 424.2 o achosion fesul 100,000 o bobl ar 19 Mawrth, yn seiliedig ar brofion PCR positif.  Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn awgrymu bod achosion yn cynyddu. Mae hyn yn cael ei ysgogi gan is-deip BA.2 o'r amrywiolyn Omicron.

Mae'r pandemig yn parhau i achosi pwysau ar y GIG, mae ffigurau ysbytai wedi cynyddu dros yr wythnos ddiwethaf gyda mwy na 1,300 o gleifion sy'n gysylltiedig â Covid-19 yn yr ysbyty ar 23 Mawrth. Diolch i ymdrechion anhygoel ein timau brechu ledled y wlad mae'r ffigur hwn yn parhau i fod yn is nag mewn tonnau Covid blaenorol.

Mae’r coronafeirws yn parhau i ledaenu yng Nghymru –  a'r DU.  Bydd Cymru'n aros ar lefel rhybudd sero. Fel y nodir yn ‘Gyda’n Gilydd Tuag at Ddyfodol Mwy Diogel’ a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth, mae Cymru yn dal i fod yn y Senario COVID Sefydlog sy'n ein galluogi i barhau i lacio rhai o'r cyfyngiadau sydd ar waith am nad yw'r rhain bellach yn gymesur â lefel y risg a wynebwn. Fodd bynnag, oherwydd y pwysau cynyddol ar y GIG, byddwn yn symud yn fwy gofalus nag a nodwyd yn flaenorol.

O 28 Mawrth ymlaen, byddwn yn dileu'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn safleoedd manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, er mwyn diogelu’r  rhai sydd fwyaf agored i niwed, bydd yn parhau yn ofynnol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn parhau i argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo yn ein canllawiau.

Bydd yn parhau yn ofynnol i fusnesau a sefydliadau gynnal asesiadau risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau risgiau. Bydd cyfreithiau eraill, megis Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, yn parhau i osod rhwymedigaeth ar gyflogwyr i ddiogelu staff a'r cyhoedd.

Bydd y gofyniad i bobl hunanynysu os ydynt yn profi'n bositif yn symud o'r gyfraith i ganllawiau. Bydd y taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobl y mae angen iddynt hunanynysu yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin. Ni fydd disgwyl mwyach i’r rhai sydd heb eu brechu ac sy’n gysylltiadau agos â phobl sy’n profi’n bositif hunanynysu.

Bydd rheoliadau mewn perthynas ag unigolion sy'n ymwneud â threfnu digwyddiadau cerddoriaeth mawr sydd heb eu trwyddedu a gofynion cyfreithiol ar ymgyrchwyr etholiadol hefyd yn cael eu dileu ar 28 Mawrth.

Ni fydd y canllawiau i ysgolion yn newid cyn diwedd y tymor hwn ar 8 Ebrill.

Nid yw gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell ar gyfer eu gwisgo’n rheolaidd mewn ystafelloedd dosbarth o hyd, ond dylai staff, dysgwyr oed uwchradd ac ymwelwyr eu gwisgo pan fyddant yn symud o amgylch yr ardaloedd cymunedol dan do y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Gall ysgolion sydd angen gweithredu ar lefel risg ‘Uchel Iawn’, yn seiliedig ar eu cyd-destun a'u cyngor lleol, barhau i argymell bod staff a dysgwyr oedran uwchradd yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn dechrau'r tymor ysgol nesaf os bydd angen unrhyw newidiadau i'r canllawiau.

Mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud i'r rheoliadau yn dilyn ystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf. Rydym yn hyderus bod y rhain yn canfod y cydbwysedd cywir rhwng y cyfyngiadau sydd ar waith a'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau i adlewyrchu'r newidiadau hyn ac rydym yn parhau i annog pobl i gynnal ymddygiadau diogelu iechyd da er mwyn helpu i leihau lledaeniad y Coronafeirws a helpu i ddiogelu Cymru.

Nid yw'r pandemig ar ben. Dyna pam rydym yn parhau i gadw rhai amddiffyniadau pwysig, gan gynnwys gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal ac asesiadau risg penodol o'r coronafeirws a gofynion mesurau rhesymol mewn gweithleoedd a safleoedd sydd ar agor i’r cyhoedd.

Gyda niferoedd cynyddol o bobl yn cael eu brechu a diolch i ymdrechion parhaus pawb i ymddwyn yn gyfrifol yng Nghymru, gallwn edrych ymlaen at amseroedd mwy disglair o'n blaenau.