Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, rhaid adolygu’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf ar 11 Mawrth.

Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau’n parhau i gwympo, mae’r pwysau ar ein GIG yn raddol lacio ac mae’n rhaglen frechu yn dal i fynd o nerth i nerth. Diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru dros y cyfnod aros gartref, gallwn nawr newid y cyfyngiadau sydd mewn grym, yn ofalus a fesul cam.  

Rydym wedi bod yn glir mai ein blaenoriaeth bennaf yw cael cymaint o blant a myfyrwyr i ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb â phosibl.  Cafodd dysgwyr y Cyfnod Sylfaen a rhai myfyrwyr galwedigaethol ddychwelyd ym mis Chwefror, ac fel cam ymlaen o hynny, o ddydd Llun, bydd pob disgybl cynradd a’r rheini ym mlynyddoedd eu cymwysterau yn cael dychwelyd.

Rydym am roi’r hyblygrwydd i ysgolion allu dod â’u dysgwyr blynyddoedd 10 a 12 hefyd yn ôl, iddynt allu mynd yn eu blaenau at gam nesaf eu dysgu, a chaiff mwy o ddysgwyr ddychwelyd i golegau hefyd.  Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion fedru cynnal sesiynau ailgydio ar gyfer eu holl ddisgyblion eraill.

Bydd pob dysgwr yn cael dychwelyd i safle dysgu ar ôl gwyliau’r Pasg ar 12 Ebrill.  Dylai ysgolion, colegau a darparwyr dysg eraill gynllunio ar gyfer hyn.

Yn dilyn yr adolygiad o’r rheoliadau coronafeirws, gallaf gyhoeddi, o ddydd Sadwrn, 13 Mawrth:

  • Yn lle’r rheol aros gartref cyffredinol, bydd rheol arhoswch yn lleol dros dro newydd yng Nghymru. Mae hynny’n golygu y bydd pobl yn cael gadael eu cartrefi a theithio yn eu hardal leol – fel arfer o fewn pum milltir – ond byddwn yn hyblyg, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a’r rheini sydd â’u siopau a’u gwasanaethau cyhoeddus agosaf ymhellach i ffwrdd.
  • Ni chaiff mwy na phedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol gwrdd yn eu hardal leol yn yr awyr agored ar y tro, gan gynnwys mewn gerddi.  Nid yw plant o dan 11 oed na gofalwyr yn cyfrif at y terfyn hwn.  Ni chaiff pobl gymysgu dan do a rhaid cadw pellter cymdeithasol.
  • Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau tenis, cyrsiau golff a lleiniau bowlio, yn cael agor.  Bydd hyd at bedwar o bobl o ddwy aelod yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n defnyddio cyfleusterau chwaraeon lleol. 
  • Bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn cael ailddechrau ar gyfer un ymwelydd dynodedig, gyda chaniatâd y cartref gofal.  Bydd angen ychydig amser ar rai cartrefi gofal i wneud y trefniadau angenrheidiol i gynnal ymweliadau dan do mor ddiogel â phosibl.

O ddydd Llun, 15 March:

  • Bydd siopau trin gwallt a barbwrs yn cael ailagor trwy apwyntiadau yn unig i dorri gwallt. Cyn belled â bod y sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn parhau’n ffafriol, caiff pob gwasanaeth cyswllt agos agor o 12 Ebrill.

O ddydd Llun, 22 Mawrth:

  • Rydym am ddechrau ar ein camau cyntaf i agor siopau nad ydyn nhw’n hanfodol. Yn y siopau hynny sydd ar agor, codir y cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydyn nhw’n hanfodol.  Bydd canolfannau garddio’n cael ailagor. Cyn belled â bod y sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn parhau’n ffafriol, caiff pob siop agor o 12 Ebrill, fel sy’n debygol o ddigwydd yn Lloegr.

Yn ystod trydedd wythnos y cyfnod adolygu, byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth ddiweddaraf cyn cadarnhau newidiadau ar gyfer gwyliau’r Pasg.  Os bydd yr amodau o ran iechyd cyhoeddus yn parhau’n ffafriol, o 27 Mawrth:

  • Caiff y cyfyngiadau aros yn lleol eu codi er mwyn i bobl allu teithio o fewn Cymru.
  • Bydd llety gwyliau hunan-gynhwysol yn cael ailagor i bobl o un aelwyd gael aros dros nos.
  • Bydd gweith areddau wedi’u trefnu i blant yn ailddechrau.
  • Bydd llyfrgelloedd yn ailagor.

Mae nifer o newidiadau eraill yn cael eu gwneud, gan gynnwys:

  • Ni fydd angen caniatâd penodol Gweinidogion i gynnal digwyddiadau chwaraeon elît unigol mwyach.
  • Bydd perfformwyr proffesiynol yn cael defnyddio theatrau a neuaddau cyngerdd i gynnal rihyrsals, waeth a ydyn nhw’n gysylltiedig â darllediad neu beidio.
  • Newidir y dyddiad pan ddaw’r rheoliadau hyn i ben i 31 Mai 2021.

Daethom i’r casgliad yn yr addoliad nad oedd yr amodau ar gyfer gohirio etholiad Senedd Cymru wedi’u bodloni.  Felly bydd y paratoadau ar gyfer 6 Mai yn parhau.  Cyhoeddir y canllawiau ar gyfer ymgyrchu ddydd Gwener a chaiff elfennau eu hadlewyrchu yn y rheoliadau.  Mae’r newid i ‘aros yn lleol’ yn golygu y bydd modd rhannu taflenni’n lleol, ond bydd canfasio o ddrws i ddrws yn dal yn waharddedig, yn unol â’r rheoliadau.

Mae’r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn ddi-os wedi gwella dros yr ychydig fisoedd diwethaf, diolch i gefnogaeth pawb ledled Cymru, ond nid yw’r coronafeirws wedi ymadael â’n gwlad.

Y pecyn hwn o fesurau yw’r cam arwyddocaol cyntaf at godi cyfyngiadau’r rhybudd lefel pedwar yr ydym wedi byw gyda nhw ers canol mis Rhagfyr. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd a gwneud popeth y gallwn ni i gadw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn isel wrth inni roi eu rhyddid personol yn ôl i bobl a chaniatáu iddyn nhw gymysgu unwaith eto.

Ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun.  Mae angen help pawb yng Nghymru arnom i gadw’r coronafeirws o dan reolaeth.