Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos.  Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 13 Mai.

Mae achosion a gadarnhawyd o COVID-19 yng Nghymru wedi gostwng i lai na 10 achos fesul 100,000 o bobl ac rydym yn parhau i fod â'r cyfraddau isaf yn y DU. Mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled pobl ledled Cymru i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel.

Mae ein rhaglen frechu yn parhau i wneud cynnydd rhyfeddol – Cymru sydd â'r drydedd gyfradd frechu uchaf yn fyd-eang. Mae mwy na 77% o'r boblogaeth oedolion wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn ac mae mwy nag un o bob tri oedolyn wedi cwblhau'r cwrs dau ddos.

Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd a llwyddiant parhaus y rhaglen frechu yn golygu y gallwn symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun 17 Mai. Mae hwn yn gam arall tuag at lacio'r cyfyngiadau rydym wedi byw gyda nhw cyhyd a thuag at fywyd mwy "normal”. Mae'n golygu y byddwn oll yn gallu ymweld â'r mannau canlynol gyda'n ffrindiau a'n teulu:

  • Mannau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis. 
  • Lleoliadau adloniant gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, canolfannau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion, theatrau a neuaddau cyngerdd.
  • Atyniadau ymwelwyr dan do, fel amgueddfeydd ac orielau.
  • Pob llety hunangynhwysol arall sydd â chyfleusterau a rennir, megis blociau cawodydd mewn safleoedd gwersylla.  

Gall nifer y bobl sy'n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu gynyddu i 30 dan do a 50 yn yr awyr agored, sy'n cynnwys derbyniadau priodas a gwylnosau mewn safleoedd a reoleiddir.

Bydd yn ofynnol i bob safle asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â Covid-19, casglu manylion cyswllt a chymryd camau rhesymol i leihau unrhyw risg posibl o drosglwyddo’r feirws, gan gynnwys sicrhau awyru digonol a darparu gwasanaeth wrth y bwrdd lle bo angen.

Bydd y rheoliadau ar lefel rhybudd dau yn cael eu diwygio fel y gall chwech o bobl o wahanol aelwydydd, ac eithrio plant o dan 11 oed a gofalwyr, gyfarfod dan do mewn safleoedd a reoleiddir.

Bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu diwygio i ganiatáu i sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â'i fod yn cael ei fwyta neu ei yfed mewn ardal eistedd, tra bo pobl yn gwylio perfformiad.   

Daw'r newidiadau hyn i'r rheoliadau i rym am 6am ddydd Llun 17 Mai.

Rwy'n gwybod bod y cyfyngiadau wedi bod yn anodd i bawb ond bydd y cyfnod hwn wedi bod yn gyfnod arbennig o rwystredig i gyplau sy'n cynllunio priodas.

Rwy'n falch y bydd y niferoedd a ganiateir mewn derbyniad priodas yn cynyddu o ddydd Llun ac y byddant yn parhau i gynyddu wrth i ni symud i lefel rhybudd un. Byddwn yn cwrdd â rhanddeiliaid i gynllunio o ran sut y gallwn alluogi i dderbyniadau gael eu cynnal mewn modd diogel gyda mwy o westeion ar ôl lefel rhybudd un.

Byddwn hefyd yn diweddaru ein canllawiau i godi’r cyfyngiadau ar nifer cyffredinol yr ymwelwyr dan do ar gyfer pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal o 24 Mai. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd bywyd preswylwyr a'u teuluoedd. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar ymweld â chartrefi gofal yr wythnos nesaf. Yn y cyfamser, mae rhai mân newidiadau wedi'u gwneud i'r canllawiau presennol a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Rydym yn parhau i fonitro amrywiolyn India fel y'i gelwir yn ofalus – ceir adroddiadau cynyddol am achosion ledled y DU ond yn enwedig yn Lloegr. Cyfarfu Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau ddoe i drafod yr amrywiolyn ac rydym yn aros am ei gyngor.

Byddwn yn parhau i ddilyn y cyngor gwyddonol ac yn symud ymlaen mewn modd gofalus a gwyliadwrus wrth i ni barhau i lacio'r cyfyngiadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a allwn wneud rhagor o newidiadau cyn yr adolygiad nesaf, gan gynnwys o ran cadw pellter cymdeithasol rhwng ffrindiau a theulu ac a all rhai digwyddiadau llai ailgychwyn.

Byddwn hefyd yn ymgynghori â rhanddeiliaid o'r sector addysg gan gynnwys awdurdodau lleol ac undebau llafur ynghylch canllawiau ar orchuddion wyneb mewn ysgolion. Yn dilyn trafodaethau gyda'r sector addysg bellach, bydd y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn colegau, lle na ellir cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr, yn parhau tan o leiaf ddiwedd tymor yr haf.

Os caiff y gwelliannau a welsom o ran sefyllfa iechyd y cyhoedd eu cynnal, byddwn yn ystyried a allwn symud i lefel rhybudd un yn yr adolygiad nesaf ar 3 Mehefin. Bydd hyn yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn nes at yr amser.

Mae’r amrywiolyn newydd sy'n cylchredeg yn y DU ar hyn o bryd yn dangos y gall y sefyllfa newid yn gyflym.  

Ar ôl adolygu ymhellach Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021, rydym wedi penderfynu y dylai'r rhain aros yn eu lle am y tro.

Mewn perthynas â theithio rhyngwladol, o 17 Mai – yn unol â'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban - bydd y cyfyngiadau cyfreithiol ar deithiau rhyngwladol nad ydynt yn hanfodol yn cael eu codi. Byddwn yn dilyn y system goleuadau traffig sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r DU a byddwn yn ychwanegu gwledydd at y rhestr werdd, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Brunei Darussalam, Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaröe, Gibraltar, Ynysoedd Falkland, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha, Singapore, Portiwgal (gan gynnwys yr Azores a Madeira) ac Israel. 

Fodd bynnag, er mwyn amddiffyn pobl yng Nghymru rhag y risg y bydd y coronafeirws yn dychwelyd i Gymru o dramor wrth i deithiau rhyngwladol ailddechrau, byddwn yn cyflwyno rhai mesurau diogelu ychwanegol.

Bydd yn ofynnol i bobl sy'n teithio o wlad sydd ar y rhestr werdd wneud prawf ar neu cyn eu hail ddiwrnod ar ôl cyrraedd yn ôl yn y DU ac i bawb sy'n dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren, ni fydd cynllun prawf-i-ryddhau ar waith yng Nghymru.

Rydym yn parhau i annog pobl i feddwl yn ofalus cyn teithio'n rhyngwladol ac osgoi teithio os nad yw'n hanfodol. Rydym yn annog pobl i fynd ar wyliau gartref eleni.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu o Gymru, ac mae amrywiolion newydd yn parhau i ddod i'r amlwg ledled y byd. Mae amrywiolyn India yn destun pryder.

Ein dull gofalus, cam wrth gam yw'r ffordd orau o ddiogelu Cymru.