Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd angen cynnal yr adolygiad diweddaraf erbyn 26 Awst.     

Yn gyffredinol, mae trosglwyddiad Covid-19 wedi cynyddu  ar draws Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae’r ganran o bobl sy’n profi’n bositif hefyd wedi cynyddu. Mae’r dystiolaeth yn parhau i awgrymu bod y rhaglen frechu wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion, y nifer sy’n gorfod mynd i’r ysbyty a marwolaethau. Mae’r pwysau ar y GIG wedi cynyddu’n gyson dros yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n cael eu derbyn yn ddyddiol i’r ysbyty ag achos tybiedig neu wedi’i gadarnhau o Covid-19 yn parhau’n agos at y lefelau isaf a welwyd ers dechrau’r pandemig.  

Fel y nodwyd yn yr adolygiad diwethaf, ni fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol yn y cylch adolygu hwn. Mae rhai diwygiadau bach yn cael eu gwneud i helpu i roi mwy o eglurder ynghylch y rheolau presennol.

Mae’r coronafeirws yma o hyd. Er ein bod wedi llwyddo i aros ar Lefel Rhybudd Sero, rhaid inni beidio â rhoi'r gorau i'r holl fesurau syml sydd wedi gwneud cymaint i'n cadw i gyd yn ddiogel.

Mae'r rhain yn cynnwys cael eich brechu'n llawn; cael prawf a hunanynysu os oes gennych symptomau coronafeirws; cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd a chadw mannau dan do wedi'u hawyru'n dda; cadw eich pellter pan allwch; golchi eich dwylo yn rheolaidd; gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do a gweithio gartref pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.

Mae cymryd cyfrifoldeb yn golygu y gallwn ailgydio yn y pethau rydym wedi'u colli fwyaf. Mae gan bob un ohonom reswm dros ddiogelu Cymru.

Daw rhai mân newidiadau i’r rheoliadau i rym ddydd Sadwrn 28 Awst. Y rhain yw: 

  • Eithrio pobl sy'n mynychu seremonïau priodas a phartneriaethau sifil rhag y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb, gan sicrhau cysondeb â derbyniadau priodas sydd eisoes wedi'u heithrio.
  • Hepgor Rhan 6 o'r prif Reoliadau mewn perthynas â darparu addysg yn yr ysgol i rai disgyblion pan fo safle'r ysgol ar gau.
  • Dileu'r cyfeiriad at y gofyniad i sicrhau 2m o bellter o dan reoliad 18A (ymgyrchu mewn etholiad).
  • Egluro bod cyfeiriadau at gysylltiadau agos o dan reoliad 16 (mesurau rhesymol) yn cynnwys yr un eithriadau a gyflwynwyd yn ddiweddar mewn perthynas â rheoliad 8(2).

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.