Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r sector TGCh yng Nghymru yn rym y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu ein heconomi a sicrhau newidiadau cymdeithasol ehangach. Mae hefyd yn hybu cynhyrchiant ac yn gwella’r gallu i gystadlu ar draws yr economi. Yng Nghymru, mae’r sector deinamig hwn yn gweithredu ar lefel byd-eang, ac mae’n cynnwys amrywiaeth fawr o gwmnïau, o fusnesau corfforaethol o’r radd flaenaf i fentrau arloesol bach a chanolig sy’n weithgar ym meysydd gwasanaethau TG, meddalwedd, telathrebu ac electroneg.

Yn y cyd-destun hwn, rwy’n benderfynol o sicrhau bod gan ddysgwyr sy’n mynd trwy ein system addysg y sgiliau y mae eu hangen arnynt i weithio yn y sector hwn a chyfrannu at ei ddatblygiad.

Mae nifer y dysgwyr yng Nghymru sy’n dilyn cwrs TGCh TGAU wedi gostwng yn sylweddol, ac rwy’n gwybod bod rhai cyflogwyr wedi mynegi pryder ynghylch yr hyn sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion, a’r ffaith ei fod yn peri i rai pobl ifanc golli pob diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector hwn ac nad ydynt yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol. Mae perygl nad yw’r cwricwlwm presennol yn addysgu’r sgiliau hyn i’n pobl ifanc.

Ar 1 Hydref 2012, cyhoeddais y byddwn yn cynnal adolygiad o ddulliau asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Nod yr adolygiad yw symleiddio’r trefniadau asesu gan ystyried pynciau craidd a phynciau sylfaenol eraill y Cwricwlwm ym mhob cyfnod, er mwyn sicrhau bod ein disgwyliadau o ran y cynnwys a’r sgiliau a addysgir yn berthnasol a chynhwysfawr.  

Wrth gynnal yr adolygiad eang hwn, dyma gyfle da inni ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh yn ysgolion Cymru. Byddaf yn rhoi cychwyn ar y broses trwy gadeirio seminar ar 19 Tachwedd a fydd yn tynnu ynghyd rai o bobl bwysicaf y sector yng Nghymru i drafod dyfodol TGCh yn ein hysgolion.

Rwyf wedi gwahodd cynrychiolwyr o’r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol, Addysg Bellach, Addysg Uwch a’r diwydiant ei hun i gymryd rhan mewn trafodaeth a fydd, gobeithio, yn fywiog ac yn gynhyrchiol o ran penderfynu ar y ffordd orau ymlaen a sut mae sicrhau bod Cymru yn hollol barod i ysgwyddo rôl arwain yn economi’r byd yn y dyfodol.