Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2018, comisiynais Dr Jacinta Tan o Brifysgol Abertawe i adolygu gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru, a phenderfynu pa newidiadau sydd angen eu gwneud i wella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion. Cyflwynodd Dr Tan ei hadroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2018. Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o'r gwasanaethau anhwylderau bwyta cyfredol, yn amlinellu'r dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol, ac yn gwneud 22 o argymhellion i wella gwasanaethau. Mae'r argymhellion yn arwyddocaol ac yn adlewyrchu beth gallai’r gwasanaethau ei gyflawni yn y tymor hir.

Rydym wedi ystyried yr argymhellion ac, fel rhan o'r broses, gwnaethom gomisiynu Rhwydwaith CAMHS ac Anhwylderau Bwyta'r GIG i gynnal gweithdy gyda chlinigwyr. Nod y gweithdy, a gynhaliwyd ym mis Mai 2019, oedd cynnwys clinigwyr yn yr adolygiad a dechrau profi rhai o'r argymhellion allweddol.

Ar ôl cael gwybod casgliadau'r gweithdy, rwyf wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd i amlinellu'r camau gweithredu yr wyf yn disgwyl iddynt eu cymryd i ddechrau'r broses o symud gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru yn nes at y weledigaeth a nodwyd yn yr adolygiad. Ni fydd y newidiadau angenrheidiol yn digwydd dros nos, ac oherwydd ehangder a graddfa'r argymhellion mae'n amlwg bod angen meithrin cysylltiadau a dadansoddi ymhellach i ystyried beth y gellir ei gyflawni yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir. Ond rwyf wedi pwysleisio bod camau gweithredu yr wyf yn disgwyl i fyrddau iechyd ddechrau gweithio arnynt yn syth. Y rhain yw:

  • Ystyried yr adolygiad, rhoi adborth a nodi lle gellir gwneud newidiadau bach allweddol i sicrhau bod cynlluniau'r gwasanaeth yn y tymor hir yn cyd-fynd ag uchelgais yr adolygiad;
  • Gweithio tuag at gyflawni safonau NICE ar gyfer anhwylderau bwyta o fewn dwy flynedd;
  • Datblygu cynlluniau i gyflawni amseroedd aros o bedair wythnos yn y gwasanaethau oedolion a'r gwasanaethau plant, fel yr argymhellir yn yr adroddiad, o fewn dwy flynedd;
  • Ad-drefnu gwasanaethau tuag at ymyrraeth gynharach

Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, byddwn yn sefydlu adnodd canolog i gynorthwyo byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau mewn modd sydd wedi'i ystyried yn llawn gan glinigwyr a rheolwyr o'r gwasanaeth cyfan, ac mewn modd nad yw'n dadsefydlogi'r ddarpariaeth bresennol. Rwyf hefyd wedi darparu buddsoddiad cylchol wedi'i dargedu o dros £700,000 eleni i gefnogi byrddau iechyd i wneud gwelliannau i'r gwasanaeth anhwylderau bwyta - bydd hyn yn cynyddu i tua £1miliwn y flwyddyn nesaf. Mae'r buddsoddiad hwn, a gefnogir gan gytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru, yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf lle rydym wedi buddsoddi £1.75miliwn yn benodol i gefnogi gwasanaethau anhwylderau bwyta ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Rwyf eisiau sicrhau bod cleifion sydd angen triniaeth yn gallu cael mynediad at y driniaeth honno ar yr adeg briodol, ac nad yw'r trothwyon ar gyfer triniaeth yn gwthio gwasanaethau i golli'r cyfle i ymyrryd yn gynharach.

Er fy mod yn cydnabod mai dechrau proses llawer hirach yw hwn, mae'r camau hyn yn ddechrau uchelgeisiol i ddatblygu'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adolygiad annibynnol. Wrth sefydlu'r camau gweithredu hyn ar gyfer byrddau iechyd, rwyf wedi ystyried cynnwys yr adolygiad, safbwynt clinigwyr a barn cleifion. Rwy'n ddiolchgar am yr ymgysylltiad parhaus hwn ar fater mor bwysig.

Ni ddylid edrych ar y gwelliannau hyn i wasanaethau arbenigol fel rhywbeth sydd y tu hwnt i ddarpariaeth prif ffrwd. Maent yn cael eu cefnogi gan welliannau i ofal sylfaenol o ganlyniad i wasanaethau cefnogi iechyd meddwl sylfaenol lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Maent hefyd yn cael eu cefnogi gan wasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac iechyd meddwl oedolion sy'n galluogi mwy o bobl, gan gynnwys y rhai hynny ag anhwylderau bwyta, i gael triniaeth yn eu cartref ac yn eu cymuned leol heb fod angen eu derbyn i'r ysbyty.

Yn ogystal â'r camau gweithredu yr wyf eisoes wedi'u nodi, rydym yn parhau i wneud cynnydd da yn rhai o'r meysydd a nodwyd yn yr adolygiad. Mae hyn yn cynnwys ein 'dull ysgol gyfan' lle rydym yn ymyrryd mewn dull systematig ar bwynt critigol yn natblygiad pobl ifanc i gefnogi gwelliannau i'w hiechyd a'u lles emosiynol ac i'w galluogi i gael mynediad i gymorth ar gam cynharach. 

Mae'r argymhellion yn rhoi gweledigaeth o sut y gallai triniaeth ar gyfer anhwylderau bwyta edrych yn y tymor hir gyda ffocws cryf ar symud darpariaeth tuag at ymyrraeth gynharach. Rwyf wedi rhannu crynodeb gweithredol yr adolygiad gyda byrddau iechyd ac wedi cyhoeddi'r ddogfen hon ar-lein.

Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymdrech wnaed i ddatblygu'r adolygiad i wasanaethau anhwylderau bwyta, gan y tîm adolygu a'r nifer fawr o unigolion a roddodd eu hamser i gyfrannu at yr ymchwil. Mae'r adolygiad yn nodi dadansoddiad uchelgeisiol ar gyfer sut y dylai gwasanaethau anhwylderau bwyta edrych yng Nghymru yn y dyfodol, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr argymhellion yn siapio ein gwasanaethau.

Gallwch ddarllen crynodeb gweithredol yr adolygiad drwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/adolygiad-gwasanaethau-anhwylderau-bwyta-2018