Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach yr wythnos hon, daeth adroddiad i law oddi wrth y Grŵp Llywio yn nodi sut i anelu at sicrhau llwyddiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd ar gyfer treftadaeth Cymru.

Sefydlais y grŵp newydd ym mis Medi i  adolygu ac i ddatblygu opsiynau er mwyn sicrhau y bydd y sector treftadaeth yng Nghymru yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Cadeiriwyd y Grŵp Llywio gan Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Roedd uwch-swyddogion yn cynrychioli Amgueddfa Cymru ‒ National Museum Wales, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn ogystal ag uwch-swyddogion yn cynrychioli'r undebau, yn aelodau o'r grŵp llywio.

Hoffwn ddiolch i Justin Albert am ei waith fel Cadeirydd y grŵp, ac am bob un o'r sefydliadau a'r undebau llafur am gydweithio ar yr adroddiad mewn ffordd mor adeiladol.  Rwyf yn hynod falch bod consensws ymhlith yr holl sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â'r gwaith o lunio'r adroddiad, a'u bod wedi cytuno ar yr argymhellion ynddo.

Byddaf yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion yn yr adroddiad a byddaf yn ymateb i bob un ohonynt yn eu tro.  

Yn y cyfamser, daeth llythyr i law oddi wrth Amgueddfa Cymru ‒ National Museum Wales y llynedd yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu'r sefydliad. Mewn ymateb i'r llythyr hwnnw, rwyf wedi gofyn i Dr Simon Thurley gynnal adolygiad o strategaeth a gweithrediadau Amgueddfa Cymru ar fy rhan. Bydd yr adolygiad hwnnw'n ystyried y cyd-destun ehangach, gan gynnwys gwaith y Grŵp Llywio a sefydlwyd i ystyried dyfodol y sector treftadaeth ehangach yng Nghymru.


http://gov.wales/topics/culture-tourism-sport/historic-environment/heritage-services-review/?skip=1&lang=cy