Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn eich hysbysu bod adolygiad o weithrediad y Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 wedi ei gwblhau. Roedd hyn yn cydfynd â’r gofynnion yn adran 10 o’r Ddeddf, i gynnal adolygiad o'i heffaith erbyn 31 Gorffennaf 2016.

Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol yn Ionawr 2014, a daeth y mwyafrif o’i is-ddeddfwriaethau i rym erbyn mis Medi 2014.  Rhyddhaodd y Ddeddf golegau rhag rheolaeth ganolog y llywodraeth, a chadarnhau pwysigrwydd rôl llywodraethwyr wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae hyn wedi dileu'r rheolaethau ar sefydliadau AB, a’u galluogi i reoli eu materion eu hunain, lleihau’r cyfyngiadau ar gyrff llywodraethu, a chryfhau eu hatebolrwydd i ddysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned ehangach maen nhw’n gwasanaethu.

O ganlyniad i’r Ddeddf, penderfynodd yr ONS fod y newidiadau'n ddigonol i ddileu'r rheolaethau ar sefydliadau AB, a chafodd y sefydliadau hynny eu

hailddosbarthu i statws fel Sefydliadau Di-elw sy'n Gwasanaethu Aelwydydd (NPISH).

Mae Adran 10 o’r Ddeddf yn cynnwys gofyniad ar Weinidogion Cymraeg i adolygu gweithrediad y Ddeddf gyda’r bwriad o asesu ei heffaith ar:

  • ariannu addysg a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr sydd dros yr oedran ysgol gofynnol ond sydd heb gyrraedd 19 oed
  • y ddarpariaeth Gymraeg mewn sefydliadau o’r fath (gan gynnwys fel esiampl darparu gwersi iaith Gymraeg i fyfyrwyr di-Gymraeg)
  • y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath.

Casgliad yr adolygiad yw bod y Rhaglen Lywodraethu a fabwysiadwyd gan y weinyddiaeth flaenorol, a'r polisïau a ddatblygwyd yn ei sgil, wedi llwyddo i ddiogelu'r dair elfen a nodwyd ar gyfer yr adolygiad hwn. O ganlyniad, mae polisïau'r Llywodraeth Gymraeg yn parhau i ddiogelu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr 16-19 oed, yn sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg wedi'i diogelu ac yn cael ei datblygu, ac yn sicrhau bod dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn dal i gael eu cefnogi.

Ni chafodd Deddf 2014 effaith amlwg ar y ddarpariaeth ar gyfer yr elfennau hyn.

Croesawaf gyhoeddiad yr adolygiad.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.