Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddwyd Defnyddio Cwynion yn Rhodd, yr adolygiad annibynnol gan Keith Evans, cyn brif weithredwr a rheolwr gyfarwyddwr Panasonic y DU ac Iwerddon, o’r ffordd y mae GIG Cymru yn ymdrin â phryderon a chwynion. Gwnaeth yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fwy na 100 o argymhellion ynghylch sut gallai’r GIG wella’r ffordd y mae’n ymdrin â chwynion. Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu am argymhellion allweddol yr adroddiad, byddaf nawr yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith gwerthfawr hwn.

Daeth adolygiad Mr Evans i’r casgliad mai Gweithio i Wella, system gwynion y GIG a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2011, yw’r ffordd gywir o ymdrin â chwynion a phryderon, ond tynnodd sylw at amrywiadau yn y ffordd y caiff ei rhoi ar waith ledled Cymru. Roedd canfyddiadau’r adroddiad yn perthyn i bedair thema gyffredinol lle’r oedd yn teimlo bod gwelliannau’n bosibl: ymatebolrwydd y broses, y seilwaith sydd ei angen, y gallu i ddangos bod dysgu’n digwydd a’r diwylliant cyffredinol.

Roedd yn awyddus i bwysleisio bod y GIG yn cynnig gofal o ansawdd da i’r mwyafrif helaeth o gleifion. Fodd bynnag, ar adegau ni fydd y gofal o’r safon ddisgwyliedig, a gall pethau fynd o’i le ac maen nhw’n mynd o’i le mewn nifer fechan o achosion. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid i’r GIG fod yn agored a gonest am yr hyn sydd wedi mynd o’i le; mae’n rhaid iddo ddysgu o’i gamgymeriadau a rhannu’r gwersi hynny.

Wedi i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, rhoddais y cyfle i nifer o sefydliadau’r GIG, eu staff a’u partneriaid, ac aelodau o’r cyhoedd, wneud sylw ar yr argymhellion a gwneud awgrymiadau pellach. Rwy’n ddiolchgar am y cyfraniadau hyn a hefyd am yr adborth gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ymchwiliad dilynol.

Yn gyffredinol, mae Defnyddio Cwynion yn Rhodd wedi cael ei groesawu. Nid oedd ei gasgliadau a’i argymhellion yn syndod i lawer o’r ymatebwyr, ac maent wedi cael eu croesawu a’u cefnogi gan fwyaf.

Gwrandawodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ystod eang o dystiolaeth yn ystod ei ymchwiliad undydd ym mis Gorffennaf. Roedd y casgliadau’n adeiladu ar gasgliadau adolygiad Evans ac maent wedi cyfrannu at ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae’r camau ar gyfer datblygu’r argymhellion wedi’u grwpio’n dri: yn gyntaf, y rhai y gall sefydliadau’r GIG fynd i’r afael â nhw ar unwaith; yn ail, y rhai lle mae angen gwaith manylach a datblygu cynigion i ystyried newidiadau i’r trefniadau presennol, yn benodol agweddau ar y trefniadau y gellid ymgymryd â nhw yn genedlaethol; ac yn olaf, y nifer fechan y mae angen eu hystyried yn y tymor hwy os nad yw’r gwelliannau sydd ar y gweill yn cael eu cyflawni. Gan ddibynnu ar fanylion y cynigion a ddatblygir, gallai fod angen deddfwriaeth newydd ar gyfer rhai o’r agweddau hyn.

Rwy’n falch o nodi bod y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd eisoes wedi cymryd camau mewn ymateb i adolygiad Evans. Maent yn bwrw golwg ar yr adnoddau a’r staff uwch sydd ganddynt, ac yn gwneud newidiadau er mwyn creu gwasanaeth mwy ymatebol ac atebol. Mae hyn yn cynnwys gweithio i wella prydlondeb yr ymatebion i gwynion.
  
Mae llawer o sefydliadau yn ystyried ffyrdd arloesol o wella’r ffordd y maent yn cyfathrebu â’r cyhoedd fel y gall cleifion a’u teuluoedd ddeall yn glir sut i wneud sylw ar unrhyw agwedd ar wasanaeth y maent yn ei dderbyn – yn dda neu’n ddrwg. Mae hyn yn elfen allweddol o’r thema yn adroddiad Evans ynghylch yr angen i ymdrin â chwynion wrth iddynt godi yn hytrach nag aros iddynt fynd yn fwy cymhleth a difrifol. Er mwyn cefnogi’r egwyddor hon a sicrhau lle canolog i lais y claf, mae Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhoi system iWantGreatCare ar brawf i gofnodi adborth cleifion ac ymwelwyr ar y pryd. Bydd hyn yn caniatáu i’r sefydliadau hyn ymdrin â materion yn effeithiol ac yn gynt. Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld y sylwadau cadarnhaol iawn yn yr adborth hyd yn hyn.

Pwysleisiodd yr adroddiad hefyd fod angen cysondeb ledled Cymru. Rwy’n falch felly bod y Fforwm Ansawdd a Diogelwch Cenedlaethol eisoes wedi dechrau gweithio ar draws Cymru i sicrhau hyn. Mae wedi cychwyn ar nifer o ddarnau o waith, gan gynnwys datblygu set ddata genedlaethol ar gwynion i sicrhau bod holl sefydliadau’r GIG yn cyhoeddi gwybodaeth mewn ffordd gyson, sy’n hawdd i’r cyhoedd ei deall ac yn caniatáu cymariaethau ystyrlon ledled Cymru.  

Bydd hefyd yn diwygio canllawiau Gweithio i Wella ac yn cyfathrebu i gysoni’r dehongliad o’r canllawiau a’r rheoliadau, gan eu gwneud yn symlach ac yn fwy hygyrch i gleifion a theuluoedd. Hefyd, mae model ar gyfer dysgu cynaliadwy a rhannu gwersi o gwynion yn cael ei ddatblygu.

Bydd grŵp cyfeirio ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yn sicrhau y caiff anghenion cleifion eu hystyried wrth i’r gwaith hwn gael ei ddatblygu.

Mae Mr Evans yn amlinellu nifer o’r argymhellion a fyddai yn ei farn ef yn elwa o gael dull gweithredu cenedlaethol. Mae’n teimlo y byddai hyn yn cynnig mwy o annibyniaeth yn y broses, yn ogystal â’r arbenigedd y mae ei hangen ar gyfer ymchwilio i’r pryderon mwy difrifol.

Rwyf eisiau ystyried ymhellach y posibilrwydd o sefydlu tîm o arbenigwyr cenedlaethol i ymdrin â phryderon difrifol a rhannu gwersi. Mae angen ystyried hyn yn fanylach ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ddatblygu cynigion dros y misoedd i ddod.

Mae gan gynghorau iechyd cymuned rôl bwysig i’w chwarae ym mhroses gwynion y GIG, yn enwedig mewn perthynas ag eirioli ac uwchgyfeirio’r wybodaeth o bryderon at fyrddau iechyd ac AGIC. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gryfhau rôl y cynghorau hyn. Felly, dylid ystyried yr ymgynghoriad presennol ar y newidiadau arfaethedig i’r cynghorau ochr yn ochr â’r ymateb hwn.

Mae’n bosibl y bydd nifer o’r argymhellion yn gofyn am newidiadau i’r rheoliadau presennol, neu ddeddfwriaeth newydd hyd yn oed. Bydd angen ystyried hyn yn ofalus wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Nid wyf yn bwriadu bwrw ymlaen â’r argymhelliad i sefydlu corff rheoleiddio annibynnol cenedlaethol ar gyfer cwynion. Fel y mae Mr Evans yn ei nodi, gellid ystyried hyn os na fydd modd gwella’r system bresennol. Rwyf eisiau rhoi digon o amser i’r GIG ddangos y gall wella’r ffordd y mae’n ymdrin â chwynion ac ystyried unrhyw newidiadau posibl ar lefel genedlaethol.

Nes bod cyfle i’r newidiadau hyn gael eu hymgorffori a bod gwelliannau’n digwydd, mae’n rhy gynnar i wneud unrhyw benderfyniadau pellach ynghylch rôl corff rheoleiddio annibynnol.

Mae nifer o argymhellion ymarferol i’w cael yn adolygiad Evans a fydd yn helpu’r GIG yng Nghymru i ddefnyddio cwynion i wella’r ffordd y mae’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Bydd llawer o’r materion y mae’n eu nodi yn gofyn am newid diwylliant, a fydd yn cymryd amser ac ymdrech ar bob lefel o’r GIG.

Rwy’n bwriadu ceisio sicrhau newid diwylliant o’r fath yn y cyfarfodydd rwy’n eu cynnal gyda staff ar bob lefel yn y GIG er mwyn gallu gweithredu gyda’n gilydd i wella’n sylweddol y ffordd o ymdrin â phryderon.