Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rydym yn gwybod y gall wrthrychau celfyddydol wneud cyfraniadau unigryw, penodol i allu pob person ifanc i ddychmygu, creu a chyfathrebu, fel eu bod yn dod yn unigolion hyderus a chreadigol.  Mae gwaith ymchwil yn dangos perthynas gref rhwng dysgu ym maes y celfyddydau a sgiliau gwybyddol sylfaenol, a’r gallu i wella sgiliau eraill fel llythrennedd a rhifedd.  Yn ogystal ag astudio pynciau celfyddydol er eu mwyn eu hunain, mae gweld gwrthrychau celfyddydol, ymateb iddynt a’u creu o fudd cymdeithasol i ddysgwyr, a gallant fod o fudd arbennig i ddysgwyr o amgylchiadau economaidd difreintiedig.  
Mae Ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ‘sicrhau bod cynifer â phosibl o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, yn ogystal ag ehangu mynediad i’n hamgueddfeydd, ein llyfrgelloedd a’n safleoedd treftadaeth, gan dargedu teuluoedd incwm isel a phlant yn benodol i gael mynediad i’n gwasanaethau.’  Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn gwneud ymrwymiadau penodol ym myd addysg a’r celfyddydau, gan gynnwys y gofyniad i Gyngor Celfyddydau Cymru ‘wneud y celfyddydau i bobl ifanc yn ganolog i’w gynllun gweithredu yn y dyfodol mewn Compact gyda’r Adran Addysg a Sgiliau’.  
Rydym felly wedi cytuno, er mwyn bodloni’r ymrwymiadau hyn, y dylid cael adolygiad ar y cyd o’r celfyddydau ym myd addysg yng Nghymru, gan gynnwys pob math o gymorth i’r celfyddydau mewn ysgolion.  
Bydd yr adolygiad yn edrych ar sut y mae sector y celfyddydau a’r sector addysg yn cydweithio yng Nghymru.  Rydym am sicrhau bod cyfleoedd creadigol o safon uchel ar gael i ddysgwyr a bod ein blaenoriaethau addysgol, ein diwylliant a’n hieithoedd yn cyd-fynd â hyn.  Mae angen inni wneud yn siŵr fod pob un o’n pobl ifanc – yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig -  yn dod i gysylltiad â’r celfyddydau ac yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau creadigol.  Mae angen inni nodi a meithrin arferion da ac edrych sut y gellir defnyddio’r celfyddydau mewn ysgolion yn y dull mwyaf effeithiol– er enghraifft, i gynorthwyo gyda dysgu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig llythrennedd, ac i ddatblygu lles emosiynol ac i addysgu dysgwyr am faterion cymdeithasol.   
Bydd yr adolygiad o’r celfyddydau ym myd addysg yng Nghymru yn argymell camau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a bydd yn pennu cyfeiriad ar gyfer sut y mae ein hysgolion yn ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau, a’r ffordd y mae ein sefydliadau celfyddydol a’n hunigolion yn cefnogi’r cwricwlwm mewn ysgolion.  
Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu’r gwaith hwn ac wedi gofyn i’r Athro Dai Smith gadeirio’r grŵp.  Yr Athro Dai Smith yw Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae hefyd yn dal Cadair Ymchwil Raymond Williams mewn Hanes Diwylliannol ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.  Cafodd yrfa nodedig fel academydd, hanesydd, bywgraffydd a darlledwr ac mae wedi ysgrifennu’n eang ar hanes, cymdeithas a diwylliant Cymru.  
Aelodau eraill y grŵp yw:
  • Margaret Jervis, Prif Weithredwr, Plant y Cymoedd
  • Iain Tweedale, Golygydd, Adran Rhyngweithio a Dysgu, BBC Cymru
  • Hilary Boulding, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Rhian Phillips, Pennaeth, Ysgol Plascrug, Aberystwyth
  • Helen Bowen, Cynghorydd Cynradd, Awdurdod Lleol Casnewydd
  • Dewi Lake, Pennaeth, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
  • Ravi Pawar, Pennaeth, Ysgol Gyfun Coed-duon
  • Ray Owen, AEM, Estyn
  • Ian J Rees, Pennaeth, Coleg Meirion-Dwyfor

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar wella safon ac amrywiaeth y celfyddydau mewn ysgolion, a bydd gan y grŵp bedwar prif amcan:  
  1. Edrych ar y dealltwriaeth o’r celfyddydau mewn ysgolion yng Nghymru, a’r cyfranogi yn y maes, ac edrych ar arferion addysgol ym maes y celfyddydau o fewn cyd-destun Cymreig;  
  2. Edrych ar yr hyn y mae’r ysgolion yn ei wneud i annog pobl ifanc i gyfranogi yn y celfyddydau;  
  3. Edrych ar yr hyn y mae’r celfyddydau yn ei wneud i gysylltu ag ysgolion ac i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr – yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig;  
  4. Nodi arferion da a’r rhwystrau i arferion da a gwneud argymhellion ynghylch sut y gall sefydliadau celfyddydol fod o fwy o gymorth i ysgolion ddatblygu sgiliau creadigol.  

Byddwn yn ymgynghori gydag ysgolion a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru yn ystod yr adolygiad hwn.  Bydd y grŵp yn edrych ar arferion da yng Nghymru a lleoedd eraill ac yn cyflwyno’r argymhellion drafft i Weinidogion yn ystod Mawrth 2013.  Cyhoeddir yr adroddiad yn ystod yr haf 2013.