Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r 22 o Arweinwyr y Cynghorau wedi rhoi ymrwymiad mai addysg yw eu blaenoriaeth cyntaf, ac y byddant yn defnyddio gwasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion o fis Medi 2012.

Cytunais i gynnal adolygiad annibynnol i brofi parodrwydd y consortia i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion yn rhanbarthol gan ganolbwyntio ar ddatblygu’r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn i weithredu'r trefniadau consortia, ystyried y datblygiadau, rhannu'r gwersi a ddysgwyd, nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau ymhellach yn y dyfodol. Roedd yr adolygiad ei hun yn seiliedig ar gyfres o 'brofion' a luniwyd i werthuso cynnydd pob rhanbarth yn erbyn yr ymrwymiadau a'r cerrig milltir a nodwyd yn eu hachos busnes mewn perthynas â’r dair agwedd allweddol ar y broses weithredu sef arweinyddiaeth, capasiti a systemau.

Casgliad cyffredinol tîm yr adolygiad yw bod tystiolaeth o ymroddiad cryf i sicrhau bod y trefniadau rhanbarthol newydd yn gweithio, a bod y rheini sy'n rhan o bob consortia wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y trefniadau’n cael eu gweithredu’n effeithiol, a cheir arwyddion o gynnydd ynghyd ag arwyddion o fanteision posibl y trefniadau newydd. Mae gan bob consortiwm gryfderau ond mae'n glir hyd yn oed o gipolwg ar yr adolygiad hwn bod llawer iawn o waith ar ôl i'w wneud. Mae angen gwneud y gwaith hwn ar frys a’i flaenoriaethu er mwyn i'r consortia allu datblygu ac adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn.

Mae negeseuon allweddol yn deillio o'r adolygiad sy'n bwysig er mwyn datblygu’r gwaith consortiwm yn y dyfodol. Rwy'n disgwyl i'r consortia nodi'r negeseuon allweddol hyn a'u gweithredu.

  • Rhaid i'r consortia ddatgan yn glir beth fyddant yn ei gyflawni drwy eu gwaith gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i wella'r addysgu a'r dysgu mewn ysgolion a chodi safonau.  
  • Mae gan arweinwyr systemau rôl allweddol i’w chwarae, a rhaid i'r consortia ystyried sut i gynyddu'r gronfa gymharol gyfyngedig o ddoniau yng Nghymru.
  • Wrth ymdrin â hyn, rhaid peidio ag anghofio rôl ganolog yr ysgolion a rhaid i'r consortia fanteisio i’r eithaf ar gydweithio rhwng ysgolion o fewn cyflenwi rhanbarthol.

Rhaid i'r consortia ganolbwyntio nawr ar symud ymlaen yn gyflym i wreiddio eu systemau a'u trefniadau llywodraethu, gwella cyfathrebu a sicrhau bod arweinwyr systemau'n cydweithio'n effeithiol gydag ysgolion a phenaethiaid.

Mae disgwyliadau'r arweinwyr systemau'n uchel. Maent yn hanfodol bwysig er mwyn gweithredu ein tair blaenoriaeth addysgol a'n cynllun cyflawni - Gwella Ysgolion. Bydd arnynt angen datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant. Mae angen datblygu a pharhau i wella'r canfyddiad o arweinwyr systemau a'u hansawdd, a hefyd y modd y maent yn rhyngweithio ag ysgolion a phenaethiaid.  

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r consortia i sicrhau bod yr hyfforddiant ar gyfer arweinwyr systemau yn bodloni safonau cenedlaethol, ac yn gynaliadwy. Rwyf hefyd yn disgwyl i'r consortia nodi a rhannu arferion da rhwng y pedwar rhanbarth, rhywbeth y maent wedi methu â’i wneud hyd yma.  

Bydd disgwyl i bob consortia lunio cynllun gweithredu a fydd yn amlinellu pa gamau y byddant yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r meysydd datblygu a nodwyd yn yr adolygiad. Bydd canfyddiadau yr adroddiad hefyd yn llunio rhan o’r dystiolaeth y mae Robert Hill yn ei gasglu.

Mae copi o’r adolygiad i’w gael ar wefan Llywodraeth Cymru.