Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwaith ieuenctid yn rhan hanfodol o'r teulu addysg yng Nghymru. Gall gwaith ieuenctid helpu pobl ifanc i feithrin perthynas â chyfoedion ac oedolion dibynadwy, magu hyder a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, a gall roi'r cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a'u lle mewn cymdeithas. Mae gwaith ieuenctid yn cael ei gynnig gan awdurdodau lleol ac ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, ac mae'r ddarpariaeth yn amrywiol iawn, yn dibynnu ar anghenion pobl ifanc o bob cefndir. 

 

Wrth gwrs, mae angen adnoddau ar y gwasanaethau hyn er mwyn gallu darparu ar gyfer pobl ifanc, o ran staffio a chyllid.  Un o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro oedd cynnal adolygiad o'r cyllid sydd ar gael i'r sector gwaith ieuenctid. Ymgymrwyd â'r gwaith hwn mewn cydweithrediad â thri sefydliad addysg uwch ledled Cymru - Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

 

Roedd tri cham i'r broses. Nod camau un a dau oedd sefydlu pa gyllid oedd ar gael i'r sector, sut mae'r cyllid hwnnw yn cael ei wario, a sut y gwneir penderfyniadau am gyllid. Mae'r adroddiad o gam 2 yn rhoi gwybodaeth a thystiolaeth gyfoethog inni ynghylch natur gymhleth cyllid gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at y gwaith hwn, gan gynnwys Grŵp Llywio'r Adolygiad o Gyllido Gwaith Ieuenctid, rhanddeiliaid o amrywiaeth eang o sefydliadau, yn ogystal â phobl ifanc. 

Bwriad cam 3 yr adolygiad hwn oedd cynnal dadansoddiad cost a budd i helpu i ddangos effaith gwaith ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd diffyg tystiolaeth ddiweddar a chadarn o safbwynt Cymru yn benodol, ni fu'n bosibl cyflawni'r cam hwn o'r adolygiad yn y ffordd a ragwelwyd yn wreiddiol. Yn hytrach, yn ystod yr wythnosau nesaf, bwriedir cyhoeddi diweddariad ar y gwaith, gan roi manylion yr heriau a wynebwyd a meysydd lle gallai gwaith ymchwil pellach helpu i fynd i'r afael â rhai o'r bylchau hynny yn y dystiolaeth, a thynnu sylw at rywfaint o'r wybodaeth ansoddol werthfawr a gawsom gan y sector a phobl ifanc yn benodol. 

Mae camau un a dau o'r adolygiad yn darparu argymhellion defnyddiol a phellgyrhaeddol yr wyf yn awyddus i'w harchwilio a'u cefnogi.

Mae fy ymatebion i’r argymhellion hyn i’w gweld isod. Rwy'n falch o ddweud bod gwaith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â nifer o'r rhain.  Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hynt y lleill maes o law.

 

ArgymhelliadYmateb
Argymhelliad 1: Dangosodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i waith ieuenctid yn y blynyddoedd diwethaf. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill barhau i hyrwyddo a datblygu model cynaliadwy a theg o waith ieuenctid yng Nghymru.Mae cynaliadwyedd a thegwch yn ystyriaethau canolog wrth inni barhau â'n gwaith gyda'r sector gwaith ieuenctid a rhanddeiliaid eraill. Gan adeiladu ar y camau a gymerwyd i ymateb i argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo a datblygu model cynaliadwy a theg ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. 

Argymhelliad 2: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ystyried cynaliadwyedd ffrydiau cyllido ar gyfer y sector gwaith ieuenctid a datblygu strategaethau a mecanweithiau i sicrhau y caiff cyllid ei ddosbarthu’n deg.

 

 

 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynaliadwyedd ffrydiau cyllido. Rydym eisoes wedi ymestyn y cyfnod cyllido ar gyfer ein Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, sy'n darparu cyllid craidd i sefydliadau gwirfoddol, i dair blynedd, ac wedi ehangu cyrhaeddiad y grant hwnnw i gynnwys sefydliadau gwaith ieuenctid arbenigol bach. Byddwn yn parhau i sicrhau bod cyfleoedd am gyllid yn cael eu rhannu'n eang er mwyn galluogi ystod mor eang â phosibl o sefydliadau cymwys i wneud cais yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gael gafael ar gyllid. 
Argymhelliad 3: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill adnabod ffyrdd o ysgafnhau “baich” biwrocrataidd y broses gyllido ar gyfer mudiadau gwaith ieuenctid yn y sectorau gwirfoddol a statudol, gan gynnwys mynediad, gwneud cais ac adrodd.

Gan adeiladu ar ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ysgafnhau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, byddwn yn cymryd camau i helpu i ysgafnhau baich gweinyddol pob grant gwaith ieuenctid. 

Cafodd y meini prawf a'r broses ymgeisio ar gyfer rownd ddiweddaraf y Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, a lansiwyd yn hydref 2024, eu hadolygu i sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol a phriodol y gofynnir amdani, ac i symleiddio'r holl ddogfennau. Bydd camau tebyg hefyd yn cael eu cymryd ar gyfer grantiau gwaith ieuenctid eraill. Byddwn hefyd yn chwilio am enghreifftiau o arfer da o rannau eraill o Lywodraeth Cymru a thu hwnt i helpu i barhau i ysgafnhau beichiau biwrocrataidd. 

 

Argymhelliad 4: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried mynd i’r afael â chyfyngiadau’r data sydd ar gael o ran safoni wrth adrodd ar gyfer cwestiynau archwilio blynyddol y sector statudol, ynghyd â ffyrdd o gasglu data cyfwerth o’r sector gwirfoddol. Efallai y bydd angen darparu cymorth i fudiadau eu cwblhau.

Mae'r casgliad data blynyddol cyfredol yn darparu gwybodaeth werthfawr gan y sector gwaith ieuenctid statudol, gan gynnwys data ar y gweithlu, ymgysylltu â phobl ifanc a'r mathau o ddarpariaeth, yn ogystal â gwybodaeth ariannol. 

Yn amodol ar ganlyniad gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd mewn perthynas â'r posibilrwydd o sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, a'r ymgynghoriad cyfredol ar gynigion i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, byddwn yn gweithio gyda'r sector i ystyried sut y gallai fod angen adolygu trefniadau archwilio blynyddol er mwyn iddynt barhau i gyflawni eu diben. Byddwn hefyd yn ystyried pa drefniadau, os o gwbl, y dylid eu cyflwyno ar gyfer y sector gwirfoddol er mwyn meithrin dealltwriaeth draws-sector o'r ddarpariaeth sy'n gadarn ac yn gymaradwy flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 


 

Argymhelliad 5: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ddarparu hyfforddiant blynyddol ar ysgrifennu ceisiadau am grantiau a chodi arian er mwyn datblygu a hyrwyddo safonau normadol ar draws y sector gwaith ieuenctid.

Mae'r gwaith a wnaed hyd yma drwy Beilot Datblygu'r Gweithlu wedi helpu i sefydlu gwell dealltwriaeth o'r lefelau sgiliau a hyfforddi presennol o fewn y sector gwaith ieuenctid, a'r bylchau yn yr wybodaeth honno. 

Fel rhan o'r cynllun peilot hwn, mae hyfforddiant wedi'i ddarparu ar gyfer unigolion ar draws y sector gwaith ieuenctid ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chyllid a chodi arian, gan gynnwys rhannu cyngor gan ystod o arianwyr. Bydd y meysydd cymorth hyn yn parhau i gyfrannu at y rhaglen hyfforddi a datblygu sy'n parhau. 

Argymhelliad 6: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, y sector gwaith ieuenctid statudol, y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol a phartneriaid eraill ddatblygu gwell mecanweithiau ar gyfer rhannu atebolrwydd a thryloywder penderfyniadau cyllido, yn lleol, rhanbarthol ac ar draws Cymru, er mwyn sicrhau mynediad teg ac amserol at gyfleoedd cyllido.

Mae cynigion ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar at ddiben ymgynghori. Mae mecanwaith gwell ar gyfer rhannu atebolrwydd yn elfen allweddol o'r fframwaith hwn, a chynigir gofyn i bob awdurdod lleol, gan weithio gyda phartneriaid gwirfoddol a statudol, ddatblygu cynllun strategol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i ymgorffori mwy o dryloywder cyfleoedd mewn perthynas â chyllid a chanlyniadau penderfyniadau cyllido yn nhelerau ac amodau grantiau gwaith ieuenctid.

Argymhelliad 7: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, y sector gwaith ieuenctid statudol, y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol a phartneriaid eraill adnabod a rhannu arfer gorau ar waith cydweithredol ar geisiadau am arian a grantiau i annog a chefnogi gwaith partneriaeth lleol, cenedlaethol a rhanbarthol.Gan adeiladu ar drefniadau sydd ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n cael y Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol rannu arferion gorau gydag eraill, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i archwilio'r posibilrwydd o ymestyn y trefniadau hyn i grantiau gwaith ieuenctid eraill, yn benodol i helpu pob partner i ddeall beth sy'n gweithio'n dda mewn perthynas â chydweithio ystyrlon. 

Argymhelliad 8: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ystyried effaith amrywioldeb yn y penderfyniadau a wneir yn lleol (e.e. dyrannu cyllid RSG ymhob awdurdod lleol) ar y gobaith o sicrhau mynediad teg at waith ieuenctid i bobl ifanc Cymru.

 

ac 

 

Argymhelliad 9: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru fel rhan o’i hymrwymiad i hyrwyddo mynediad at waith ieuenctid i bobl ifanc yng Nghymru ystyried neilltuo’r RSG er mwyn adnabod symiau enwol y dylid eu neilltuo i gefnogi gwaith ieuenctid yn ardal pob awdurdod lleol.

Fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i ysgafnhau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys cyllid a ddarperir i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw, sydd wedyn yn cael ei ddyrannu i wasanaethau yn unol â blaenoriaethau a nodwyd yn lleol. 

O ran gwaith ieuenctid, mae hyn wedi arwain at amrywiadau sylweddol o ran sut mae gwaith ieuenctid yn cael ei ariannu. Rhaid ei gwneud yn nod bod gwasanaethau gwaith ieuenctid ar gael i bob person ifanc yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir neu ble maent yn byw.

Ni fydd neilltuo'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid yn y Grant Cynnal Refeniw ynddo'i hun yn sicrhau hynny, a gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol. Er enghraifft, gallai olygu y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu cwtogi neu'n dod i ben oherwydd gostyngiad mewn cyllid. 

Mae ein cynigion ar gyfer fframwaith statudol newydd yn nodi trefniadau cynllunio, cyflawni ac atebolrwydd gorfodol ar gyfer darparu gwaith ieuenctid y bydd gofyn i bob awdurdod lleol eu dilyn. Ni all awdurdodau lleol yn unig weithredu'r fframwaith hwn, ac mae dull amlasiantaethol cydweithredol ochr yn ochr â sefydliadau gwirfoddol yn hanfodol. Bydd y fframwaith hwn yn helpu i feithrin dealltwriaeth gliriach o'r amcanion allweddol ar gyfer gwaith ieuenctid ym mhob rhan o Gymru, a datblygu penderfyniadau lleol i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn, gan gynnwys sut mae adnoddau yn cael eu dyrannu. Ochr yn ochr â'r datblygiadau hyn, byddwn yn parhau i ystyried sut y gellir defnyddio dulliau eraill i sicrhau eglurder ar sut mae cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol ar gael i bobl ifanc ledled Cymru. 

Argymhelliad 10: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill barhau i ystyried cryfhau’r seiliau deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru trwy fabwysiadu fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid. Gallai hynny gynnwys sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid allai fod yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid i’r sector, cefnogi datblygu’r gweithlu a hyfforddiant a dylanwadu ar ddatblygiadau ar lefel gynllunio ranbarthol.Mae cynigion ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar at ddiben ymgynghori. Mae'r gwaith yn parhau mewn perthynas ag archwilio'r posibilrwydd o sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, a bydd cyfrifoldebau dosbarthu cyllid yn ogystal â hyfforddi a datblygu'r gweithlu yn cael eu hymgorffori yn y gwaith hwn.
Argymhelliad 11: Argymhellwn y dylai’r sector gwaith ieuenctid barhau i ystyried cyfranogiad llawn ac ystyrlon pobl ifanc yn y broses gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, gan gynnwys ceisiadau grant, a gwariant, y gellid ei wneud trwy gymhwyso safonau cyfranogiad cenedlaethol plant a phobl ifanc.

Mae cynigion ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yn nodi gofynion clir o ran cyfranogiad pobl ifanc, yn unol â'r safonau cyfranogiad cenedlaethol.

 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn parhau i lywio'r gwaith a wnawn. Fel rhan o'n gwaith i hyrwyddo ac amlygu hyn, mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn nodi safonau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc wrth gynllunio a darparu gwaith ieuenctid. Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd i hyrwyddo cyfranogiad llawn ac ystyrlon pobl ifanc ymhellach mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. 

Argymhelliad 12: Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru barhau gyda cham 3: Dadansoddiad cost budd sy’n adeiladu ar syniadau economaidd cydnabyddedig ac arfer gorau cyfredol o’r sector gwaith ieuenctid ledled gwledydd Prydain a thu hwnt. Darparu data i helpu rhagfynegi canlyniadau penderfyniadau cyllido a’u heffeithiau posib i bobl ifanc.Mae'r gwaith ar drydydd cam yr adolygiad wedi parhau i archwilio cyfleoedd i ddeall effaith economaidd gwaith ieuenctid yn well. Caiff diweddariad ar waith a wneir o fewn y cam hwn ei gyhoeddi maes o law.