Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Ebrill 2024, daeth adran 20 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym. Diwygiodd hyn eiriad Cymru Lewyrchus, sef un o’r nodau llesiant, drwy newid y geiriau ‘gwaith addas’ i ‘gwaith teg’. Yn sgil hynny, o dan adran 10(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”), rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion a’r cerrig milltir llesiant cenedlaethol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn briodol. Mae’r adolygiad hwn wedi ei gwblhau. 

Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod lefel uchel o orgyffwrdd rhwng y cysyniadau o waith addas a gwaith teg. Mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg, gwnaed newidiadau ac ychwanegiadau i’r dangosyddion llesiant cenedlaethol yn 2021 ac wedi hynny, gwnaeth cyflwyno’r cerrig milltir cenedlaethol hefyd gynnwys gwaith teg. O ganlyniad, nid ystyrir bod angen newidiadau pellach i’r dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol oherwydd y newid i'r nod llesiant Cymru Lewyrchus.

O dan adran 10(7), caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg adolygu a diwygio'r dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol. Nid yw’r Ddeddf yn rhagnodi ynghylch pa bryd y dylai adolygiad o’r fath ddigwydd. Fodd bynnag, yn y dyfodol, cynigir y cynhelir adolygiad yn ystod y 12 mis ar ôl cynnal etholiad i’r Senedd. Bydd amseriad yr adolygiad hwn yn cyd-fynd ag amlder cyhoeddi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol.