Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae trefniadaeth Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, mae nifer y cyrff sefydlog sy’n cynghori’r gwasanaeth iechyd a’r Llywodraeth ar faterion yn ymwneud ag iechyd wedi cynyddu i’r fath raddau, fel bod llu ohonynt erbyn hyn. Mae’n bosibl fod cyfraniad y grwpiau hyn bellach yn llai nag y gallai fod, a bod angen eu hadolygu, eu diwygio a’u hadfywio, i’n helpu i ddarparu system gofal iechyd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae modelau gwasanaeth a pholisi iechyd yn gwbl ddibynnol ar y mewnbwn clinigol sy’n sail iddynt am eu llwyddiant. Rydym ni yng Nghymru yn ffodus fod gennym hanes cryf o gydweithio a gwaith partneriaeth, ac ymrwymiad pendant iddo. Mae arnom angen system gref a chredadwy fel bod barn glinigol arbenigol yn cael ei defnyddio i wella gwasanaethau. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i sicrhau gwell canlyniadau o ran iechyd ac i ddatblygu modelau gwasanaeth newydd sy’n caniatáu inni fyw o fewn ein modd.

Heddiw, rwy’n lansio cais am dystiolaeth dros gyfnod o dri mis, er mwyn adolygu’r strwythur cynghori presennol, a helpu i benderfynu pa newidiadau sydd eu hangen, o bosibl, i sicrhau bod GIG Cymru yn elwa ar y cyngor clinigol mwyaf effeithiol, effeithlon ac awdurdodol. Rhaid inni hefyd sicrhau ei fod yn nodi, yn meithrin ac yn defnyddio’r arweinwyr clinigol gorau sydd gan GIG Cymru i’w cynnig.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys pwyllgorau cynghori statudol Llywodraeth Cymru, fel Pwyllgor Meddygol Cymru, y Grwpiau Cynghori Arbenigol Cenedlaethol, Fforymau Iechyd Proffesiynol Lleol, a’r grwpiau lleol, fel y Pwyllgorau Deintyddol Lleol. Bydd Prif Weithredwyr GIG Cymru yn gweithio gyda’u Penaethiaid Proffesiwn, fel y Cyfarwyddwyr Meddygol, y Cyfarwyddwyr Nyrsio a’r Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddor Iechyd, i gynnal adolygiad ar wahân o’r Rhwydweithiau Clinigol yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar agweddau ymarferol. Er hynny, bydd y naill adolygiad a’r llall yn dysgu gwersi oddi wrth ei gilydd.

Rwy’n rhagweld y bydd yr holl dystiolaeth wedi dod i law erbyn diwedd mis Mawrth. Anogaf bob rhanddeiliad, yn enwedig y rheini sy’n derbyn cyngor clinigol, i gymryd rhan yn y broses a chyfrannu at lunio ein cynigion. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn www.wales.gov.uk/cmo