Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi penodi'r Athro Harvey Weingarten i gynnal adolygiad o systemau ar gyfer monitro a gwella effeithiolrwydd addysg ôl-orfodol yng Nghymru.  Yr Athro Weingarten yw Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Ansawdd Addysg Uwch Ontario. Mae'r Cyngor hwn yn asiantaeth sy'n gweithredu hyd braich oddi wrth lywodraeth Ontario, ac mae'n cynnal ymchwil ac yn darparu cyngor polisi i'r llywodraeth er mwyn gwella hygyrchedd, ansawdd ac atebolrwydd colegau a phrifysgolion. Mae'n arbenigwr o fri sydd ag arbenigedd eang ym maes addysg uwch, a dyma'r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal adolygiad effeithiol.

Gyda'i gefndir, ei brofiad a'i arbenigedd, ynghyd â'i annibyniaeth ar y sector addysg Cymru, rydym yn fodlon bod yr Athro Weingarten mewn sefyllfa unigryw i gynnal yr adolygiad hwn ar gyfer Llywodraeth Cymru. Bydd ei waith blaenorol a'i brofiad eang o systemau rheoleiddio, ynghyd â'i annibyniaeth ar y system bresennol yn y DU, hefyd o fudd mawr o ystyried yr amserlen dynn ar gyfer yr adolygiad.

Bydd Adolygiad yr Athro Weingarten yn cyfrannu at ddatblygu systemau ar gyfer monitro a chefnogi'r system addysg ôl-orfodol yng Nghymru, fel eu bod yn cymharu'n ffafriol â systemau eraill yn y DU ac yn aelod-wladwriaethau eraill yr OECD o fewn y 10 mlynedd nesaf. Dylai'r adolygiad gael ei weld fel rhan o'n proses ehangach ar gyfer diwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn yr hirdymor, sy'n cynnwys yr ymgynghoriad cyfredol ar greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru ac adolygiad yr Athro Grahame Reid o ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth yng Nghymru.  

Bydd yr Athro Weingarten yn adrodd ar ei ganfyddiadau ym mis Mawrth 2018.  Mae cylch gorchwyl yr adolygiad yn Atodiad A.

Atodiad A

Cylch gorchwyl ar gyfer adolygiad o'r systemau ar gyfer monitro a gwella effeithiolrwydd addysg ôl-orfodol yng Nghymru

1. Ystyried sut mae gweithgareddau a pherfformiad y sector addysg ôl-orfodol yn cael eu monitro a'u gwerthuso gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau, gan gynnwys Estyn a CCAUC, sy'n arfer y cyfrifoldeb hwnnw drwy drefniadau a wnaed gyda'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.

2. Ystyried effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer monitro addysg ôl-orfodol yng Nghymru drwy eu cymharu â threfniadau gwledydd eraill y DU, cymaryddion rhyngwladol perthnasol a thystiolaeth o waith ymchwil.

3. Gweithio gyda phobl yn y sector addysg ôl-orfodol yng Nghymru i ystyried sut y gellir sicrhau bod y gweithgareddau presennol a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cyd-fynd â phum egwyddor Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sef:

• meddwl am yr hirdymor;

• canolbwyntio ar atal;

• cyflawni'r 7 nod llesiant mewn ffordd integredig;

• cydweithio ag eraill er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy a rennir;

• cynnwys grwpiau amrywiol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

4. Ystyried argymhellion ar gyfer cyflwyno a gweithredu system gyhoeddus flynyddol ar gyfer adrodd ar, monitro, gwerthuso a gwella addysg ôl-orfodol yng Nghymru.

5. Ystyried sut mae'r sector addysg ôl-orfodol yng Nghymru yn parhau i sicrhau deilliannau o ansawdd uchel i fyfyrwyr mewn sector sy'n llwyddiannus ar lefel ryngwladol o ran arloesi ac ymchwil.

6. Ystyried a oes angen deddfwriaeth neu drefniadau sefydliadol newydd neu ddiwygiedig er mwyn gweithredu'r trefniadau a gynigir ar gyfer y dyfodol o ganlyniad i'r adolygiad hwn.

7. Cyflwyno sylwadau ar sut y gellir sicrhau bod y systemau presennol ar gyfer monitro a gwerthuso addysg ôl-orfodol yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a datblygiad strategaeth ar gyfer addysg ôl-orfodol yn unol ag ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Hazelkorn. Dyma'r saith nod llesiant:

• Cymru lewyrchus;

• Cymru gydnerth;

• Cymru iachach;

• Cymru sy’n fwy cyfartal;

• Cymru o gymunedau cydlynus;

• Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

• Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang