Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad pellach ynghylch y bwriad i ddileu’r hawliau mynediad hanesyddol.

Mae rheoliadau penodol sy’n gwahardd cychod o faint neu gapasiti penodol rhag pysgota yn y parth 0-6 milltir forol o amgylch Cymru. Ar hyn o bryd, mae eithriadau i’r darpariaethau hynny sy’n caniatáu i gychod dros y cyfyngiadau maint neu gapasiti penodol barhau i bysgota yn yr ardaloedd hynny.  Mae’r eithriadau hynny wedi dod i’w hadnabod fel hawliau mynediad hanesyddol neu hawliau tad-cu.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i ddileu hawliau mynediad hanesyddol rhwng Tachwedd 2011 a Chwefror 2012.  

Roedd mwyafrif yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyntaf yn cefnogi’r cynigion. Fodd bynnag, mynegwyd nifer o bryderon a ysgogodd ddadansoddiad pellach, a deilliodd nifer o faterion cymhleth o’r broses honno. O ganlyniad, penderfynais fod angen cynnal cyfnod pellach o ymgynghori er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru’r ddealltwriaeth lawnaf bosibl o’r sefyllfa bresennol ac effeithiau posibl y bwriad i ddileu’r hawliau mynediad hanesyddol hyn.

Mae’r ddogfen ymgynghori newydd yn gofyn am sylwadau ynghylch nodau’r bwriad i ddileu’r hawliau hyn, y dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi’r cynnig hwn a’r effaith bosibl y gallai’r cynigion ei chael ar unigolion a busnesau.

Er gwybodaeth, dyma nodau’r bwriad i ddileu’r hawliau mynediad hanesyddol:

  • sicrhau cydraddoldeb o ran rheoleiddio cychod pysgota sy’n gweithredu yng Nghymru;
  • diogelu amgylchedd morol Cymru; 
  • cynnal stociau pysgod dyfroedd Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 1 Rhagfyr 2013. Rwyf yn gobeithio gallu dod i benderfyniad ynghylch sut i symud ymlaen gyda’r mater hwn cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.