Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adroddiad panel adolygiad teilwredig annibynnol Amgueddfa Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae'r adroddiad cynhwysfawr yn gwneud 77 o argymhellion am lywodraethu Amgueddfa Cymru; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; partneriaethau a pherthnasoedd; cyfraniad i'r economi a'r gymdeithas a chyfleoedd ar gyfer buddsoddi, twf a gwasanaethau a rennir.

Cafodd y panel, o dan gadeiryddiaeth David Allen, cyn-gadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ei gynnull ym mis Awst 2022. Gofynnwyd i ddechrau iddo flaenoriaethu llywodraethu a rhannwyd adroddiad interim gydag Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwnnw wedi'u cynnwys yn yr adroddiad terfynol a gyhoeddwyd heddiw. Hoffwn ddiolch i'r panel am ei waith trylwyr ac ymroddedig.

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio drwy'r adroddiad terfynol gydag Amgueddfa Cymru i edrych ar oblygiadau pob argymhelliad a datblygu cynllun gweithredu a llinell amser.

Mae rhai o'r argymhellion a wnaed gan y panel eisoes yn cael eu gweithredu - mae teitlau llywydd ac is-lywydd yn cael eu disodli gan gadeirydd ac is-gadeirydd i adlewyrchu natur y rolau hyn yn well.

Rwy'n ddiolchgar o bositifrwydd Amgueddfa Cymru ac ymgysylltiad staff drwy gydol y broses adolygu hon. Dywedodd y panel bod llawer iawn i'w ddathlu yng ngwaith Amgueddfa Cymru, gan ei alw'n ‘un o brif drysorau’ diwylliant Cymru.

Mae'r panel wedi cyflwyno rhaglen waith i Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru a fydd yn ei galluogi i symud ymlaen mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o adfywiad diwylliannol Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn dechrau ar gyfnod newydd a chyffrous ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag argymhellion y panel yn ddiweddarach eleni.