Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Flwyddyn yn ôl, mewn ymateb i gwynion o fwlio, aflonyddu a chamymddwyn tebyg a amlygwyd gan y cyfryngau, penododd Llywodraeth Cymru Gomisiynwyr i oruchwylio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Daeth hyn yn dilyn adroddiad gan Fenella Morris KC ar ddiwylliant yn y gweithle a safonau rheoli a llywodraethu yn y sefydliad.
Heddiw, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru eu hadolygiadau diwylliannol annibynnol eu hunain. Maent ar gael yma Hafan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac yma https://www.mawwfire.gov.uk/cym/.
Mae'r adroddiadau'n cynnwys canfyddiadau sy'n ymwneud â bwlio ac aflonyddu, dirmyg at fenywod, gwahaniaethu, dulliau rheoli amhriodol a dyrchafu yn seiliedig ar ffafriaeth. Mae'r rhain yn ymddygiadau hynod bryderus sy'n annerbyniol mewn unrhyw weithle.
Mae pryderon tebyg wedi cael eu mynegi gan weithwyr cyflogedig y Gwasanaethau Tân ac Achub mewn rhannau eraill o Gymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, fel y mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân ac Undeb y Brigadau Tân wedi cydnabod. Ni ddylid goddef ymddygiad o'r math hwn, a rhaid cymryd canfyddiadau'r adroddiadau heddiw o ddifrif.
Rwyf wedi cyfarfod â Chadeiryddion yr Awdurdodau Tân ac Achub a'r ddau Brif Swyddog Tân i drafod sut maent yn bwriadu mynd i'r afael â chanfyddiadau'r adroddiadau ac rwy'n ddiolchgar am eu hymgysylltiad cadarnhaol hyd yn hyn. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, nodais fy nisgwyliad y dylid cymryd camau clir a phendant ar unwaith i ddatgymalu'r diwylliannau niweidiol hyn a sicrhau bod staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gweithle.
Rwy'n disgwyl i'r Cadeiryddion a'r Penaethiaid weithredu ar fyrder ac yn bwrpasol wrth fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiadau ac wrth gefnogi eu staff. Byddaf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac yn mynd ati ar unwaith i sefydlu sut orau i gyflawni a chynnal newid diwylliannol ar draws y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Senedd ar y materion hyn, ac am y sefyllfa yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn penodiad Comisiynwyr yn fuan.
