Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd naw adolygiad etholiadol eu cynnal gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ei gylch adolygu diweddaraf. Mae’r rhain yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Thorfaen.

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yn golygu bod y Comisiwn wedi atal dros dro ei raglen adolygu barhaus i ddisgwyl am gyfarwyddiadau pellach ar gyfer cynnal adolygiadau cychwynnol o’r ardaloedd newydd arfaethedig. Rwy’n ymwybodol, felly, fod yr adolygiadau etholiadol sydd wedi'u cwblhau eisoes ond yn berthnasol i naw o’r 22 o Awdurdodau Lleol  a’u bod ond yn berthnasol i’r etholiadau llywodraeth leol yn 2017, ac yn cael effaith am gyfnod o dair blynedd yn unig.

Rwyf wedi penderfynu, felly, peidio â gwneud Gorchmynion i weithredu'r adolygiadau etholiadol sy’n dal heb eu gweithredu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Thorfaen cyn yr etholiadau lleol yn 2017. Byddaf yn ystyried yr adolygiad sy’n dal heb ei weithredu ym Mhowys cyn bod disgwyl i’r etholiadau lleol gael eu cynnal yn y sir honno yn 2020.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.