Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Hydref, ymrwymais i ddarparu diweddariad Gwanwyn ar gynnydd ar ôl cwblhau'r pedwar Adolygiad Tymor Byr a gomisiynwyd i yrru gwaith cyflawni ein Cenhadaeth Economaidd. Cynlluniwyd yr adolygiadau hyn i ddod ag eglurder a momentwm i flaenoriaethau allweddol, AI, sgiliau gwyrdd, a chynhyrchiant a chymorth busnes busnesau bach a chanolig (BBaChau), gan sicrhau bod ein dull yn adlewyrchu profiad byw busnesau, undebau llafur a phartneriaid cyflenwi ledled Cymru. 

Roedd Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) yn elfen bwysig o'r Adolygiad Tymor Byr, ac o gymorth i egluro'r anghenion o ran sgiliau,cadwyni cyflenwi a'r seilwaith sy'n gysylltiedig â dechrau defnyddio'r Môr Celtaidd. Mae ei ganfyddiadau wedi'u bwrw ymlaen a'u hymgorffori yng Nghynllun Gweithredu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr, y mae cynnydd arno wedi'i nodi mewn datganiad ar wahân heddiw, sy'n nodi rhaglen fwy manwl, sy'n canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer 2025–26. 

Mae'r adolygiadau wedi helpu i roi her a ffocws i ysgogi cyflawni ar draws pob ffrwd waith, cyflymu gweithredu ymarferol ac atgyfnerthu diwylliant cyflawni wedi'i ffurfio gan leisiau'r rhai sydd wrth wraidd ein heconomi. Gyda'i gilydd, maent hefyd wedi cryfhau'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'n gwaith ac wedi cefnogi dull sy'n cyd-fynd yn well â Llywodraeth y DU ar flaenoriaethau cyffredin, megis y Strategaeth Ddiwydiannol Fodern.

Adolygiad AI

Mae'r Adolygiad Tymor Byr ar AI wedi llywio'n uniongyrchol ddatblygiad a chyfeiriad y Cynllun AI i Gymru, sy'n mynegi gweledigaeth i harneisio pŵer trawsnewidiol AI i ysgogi twf economaidd cynhwysol, trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg a'r Saesneg ac arfogi ein pobl â'r sgiliau i ffynnu mewn dyfodol wedi'i siapio gan AI. Mae'n cyfuno'r ymdrechion traws-sector hyn mewn ffordd gydlynol a strwythuredig, gan fynegi ein huchelgais gyffredin i ddefnyddio AI er lles y cyhoedd, gyrru ein heconomi yn ei blaen, ehangu sgiliau AI ac adlewyrchu gwerthoedd cymdeithas Cymru. 

Ers ei gyhoeddi, mae momentwm pellach wedi'i gynhyrchu trwy gyhoeddi'r Ardaloedd Twf AI yng Ngogledd a De Cymru. Gyda phob Ardal yn elwa o £5 miliwn o gyllid cymorth lleol, mae'r Ardaloedd wedi'u cynllunio fel canolfannau ar gyfer ymchwil AI, ei ddefnyddio a chydweithio mewn diwydiant, gan ddod â chapasiti cyfrifiadurol, arbenigedd ymchwil a rhaglenni sgiliau ynghyd i gyflymu pa mor sydyn mae busnesau'n ei fabwysiadu, datblygu sgiliau ac arloesi.

Fe wnaethom ymrwymo £2.1 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig ledled Cymru i fabwysiadu AI, gan wella cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd trwy ddarparu sgiliau a hyfforddiant AI ymarferol. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen cymorth ymwybyddiaeth a mabwysiadu AI gan Busnes Cymru, gweithgarwch wedi'i dargedu i wella'r defnydd o AI yn y sectorau twristiaeth a digwyddiadau, a chyllid pwrpasol o fewn ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) hirsefydlog i bontio bylchau mewn sgiliau digidol a gwneud hyfforddiant AI yn fwy hygyrch.

Mae'r gweithgaredd peilot AI hwn yn ein helpu i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gryfach ar anghenion sgiliau AI, yn enwedig ar gyfer BBaChau, a bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i lunio fframwaith polisi hirdymor ar gyfer cefnogi darparu hyfforddiant AI o ansawdd uchel wedi'i dargedu yng Nghymru. O safbwynt gwasanaeth cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid y flwyddyn ariannol hon ar gyfer cyfres o fentrau i gefnogi'r broses o roi AI ar waith yn gyfrifol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Nod y mentrau hyn yw dangos manteision ymarferol AI a sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol.

Mae'r datblygiadau hyn yn atgyfnerthu dull ymarferol Cymru o ran AI: alinio sgiliau, arloesedd a thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus wrth gefnogi busnesau bach a chanolig i fabwysiadu technolegau newydd drwy Busnes Cymru a'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

Adolygiad Sgiliau Gwyrdd

Tynnodd yr Adolygiad Sgiliau Gwyrdd, dan arweiniad y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, sylw at yr angen am ddull cydgysylltiedig a arweinir gan y diwydiant o ddatblygu'r gweithlu sydd ei angen ar gyfer trawsnewid Cymru i economi sero net. 

Rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws yr ecosystem werdd i ddeall yn well faint o newid sydd ei angen, a pha mor sydyn.  Ym mis Ionawr ymunodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch â mi yn Llangefni mewn Uwchgynhadledd Sgiliau Gogledd Cymru lle ymunodd cynrychiolwyr o fusnesau, y byd academaidd a llywodraeth leol â ni. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar ymgorffori cydweithredu a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gyflwynir gan nifer o fuddsoddiadau a phrosiectau rhanbarthol mawr gan gynnwys Niwclear, FLOW, Ardal Twf AI Gogledd Cymru, Porthladd Rhydd Ynys Môn a Pharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

Byddwn yn adeiladu ar wybodaeth genedlaethol a rhanbarthol bresennol trwy lansio archwiliad sgiliau cenedlaethol newydd yn ystod mis Mawrth 2026 gyda chanfyddiadau ar gael tua diwedd y flwyddyn. Bydd yr Archwiliad Sgiliau yn darparu asesiad cadarn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth o anghenion sgiliau presennol ac yn y dyfodol yng Nghymru, gan gynnwys sgiliau gwyrdd a digidol allweddol, a sut mae'r rhain yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth addysg a hyfforddiant.

Mae'r adolygiad hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd allweddol ymgysylltu rheolaidd rhwng y llywodraeth a phartneriaid allweddol eraill. Mae’r gwaith o sefydlu Grŵp Ymgysylltu Sgiliau Gwyrdd sefydlog yn cael ei archwilio ar hyn o bryd. Bydd hynny'n darparu ffordd strwythuredig i bartneriaid diwydiant a'r byd academaidd fwydo'n uniongyrchol i'r broses o ddatblygu polisi sgiliau gwyrdd a digidol, gan sicrhau bod penderfyniadau'n seiliedig ar safbwyntiau o'r byd go iawn‑.

Mae ein hagwedd at sgiliau gwyrdd yn cael ei chryfhau ymhellach drwy'r ymrwymiadau ynni glân sydd wedi'u hymgorffori yn y Strategaeth Ddiwydiannol, lle rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU. 

Mae'r Cynllun Swyddi ategol yn nodi sut y gallai cyflogaeth ynni glân ddyblu i 860,000 o swyddi erbyn 2030, wedi'i yrru gan fuddsoddiad mawr mewn technolegau gwynt, solar, llanw a thechnolegau carbon isel eraill ledled y DU. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw o dda i elwa o'r twf hwn. Mae gan rannau o Gymru a gydnabyddir yn genedlaethol nodweddion naturiol ar gyfer ynni gwynt, solar a llanw sy'n ffurfio sylfaen economi ynni glân gwydn, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.

Mae cynnydd yn cael ei yrru drwy strwythurau cyflenwi rhanbarthol, gan gynnwys yr Hwb Sgiliau Uwch yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, a thrwy gydweithrediad agos â chyflogwyr ar draws sectorau ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cefnogi datblygu sgiliau yn y meysydd canlynol: 

  • Gwynt ar y tir ac ar y môr, lle disgwylir i'r defnydd dyfu'n sylweddol fel rhan o ehangu ynni glân rhwng y DU a Chymru.
  • Gwynt arnofiol ar y môr (FLOW) yn y Môr Celtaidd, a allai gefnogi hyd at 5,300 o swyddi a chynhyrchu hyd at £1.4bn i'r economi, gyda chefnogaeth camau gweithredu ar y cyd rhwng y DU a Chymru ar borthladdoedd, cadwyni cyflenwi a datblygu'r gweithlu. 
  • Solar, lle mae angen sgiliau gosod a chynnal a chadw fwyfwy wrth i gapasiti solar ar raddfa fach a mawr ehangu.
  • Llif llanw ac ynni morol, a gefnogir trwy fesurau cadwyn gyflenwi ynni glân y Strategaeth Ddiwydiannol a buddsoddiadau capasiti porthladdoedd. 

Ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy, mae Cymru hefyd yn cymryd rhan yng Nghynllun Sgiliau Niwclear ledled y DU, gan sicrhau bod datblygu'r gweithlu niwclear yn rhan o'r darlun sgiliau ynni glân ehangach. Mae'r Cynllun yn nodi gofyniad am 40,000 o weithwyr medrus ychwanegol erbyn 2030 ledled y DU ac mae'n cynnwys creu Hyb Sgiliau Rhanbarthol Cymru yn 2026 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu, partneriaethau hyfforddi ac ymgysylltu â chyflogwyr.

Gyda'i gilydd, mae'r gweithgareddau hyn yn cryfhauecosystem sgiliau gwyrdd Cymru, gan sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau yn cadw i fyny â'r defnydd o dechnolegau ynni glân, boed hynny mewn gwynt, solar, morol neu niwclear, a chefnogi'r gwaith o gyflawni uchelgeisiau ynni glân a rennir y Strategaeth Ddiwydiannol.

Adolygiad Cynhyrchiant BBaChau

Mae gwella cynhyrchiant busnesau bach a chanolig yn parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog, ac mae'r Adolygiad Cynhyrchiant BBaChau wedi cadarnhau rhwystrau hirsefydlog sy'n ymwneud â mynediad at gyllid, oedi o ran gweithgarwch arloesi, mabwysiadu technolegau digidol, bylchau sgiliau, allforio, ac iechyd yn y gweithle. Mae'r Adolygiad yn eistedd ochr yn ochr â'r Adolygiad Cymorth Busnes mewnol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025, a amlygodd yr angen am system gymorth fwy cydlynol a hawdd ei llywio i fusnesau bach a chanolig. Gyda'i gilydd, mae'r adolygiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd symleiddio llwybrau cymorth busnes a sicrhau bod cwmnïau'n derbyn cymorth ymarferol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n cryfhaugwydnwch a thwf hirdymor.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau'r ecosystem cymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru, sydd wedi helpu entrepreneuriaid i greu neu ddiogelu 22,000 o swyddi yn nhymor y Senedd, gan ddangos maint a chyrhaeddiad y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig. Mae Busnes Cymru yn helpu entrepreneuriaid, micro-fusnesau a BBaChau i ddatblygu busnesau mwy gwydn a datblygu eu harferion busnes, gan ddarparu cyngor a chanllawiau i wella cynhyrchiant, fel cryfhau arferion cyflogi, mynediad at farchnadoedd newydd, gwelliannau digidol neu fynediad at gyllid.  Nod Busnes Cymru yw gwella cynhyrchiant ac ysgogi entrepreneuriaeth, datblygiad a thwf busnes er mwyn helpu i greu cyflogaeth o ansawdd mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy. 

Mae mynediad at gyllid wedi bod yn rhan hanfodol o'r cynnig hwn, gyda Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi dros £1 biliwn ers iddo gael ei ffurfio yn 2017.  Mae wedi cefnogi bron i 5,000 o fusnesau, gan gynnwys mwy na 780 o fusnesau newydd‑, gan helpu entrepreneuriaid ym mhob rhan o Gymru, gan greu neu ddiogelu dros 50,000 o swyddi. 

Mae parhau i gynorthwyo BBaChau i allforio mwy yn dal i fod yn ysgogiad allweddol ar gyfer gwella cynhyrchiant, gan helpu busnesau i dyfu, arallgyfeirio a chystadlu yn fyd-eang. Wrth gyflawni Cynllun Gweithredu Allforio Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau ledled Cymru i ddatblygu marchnadoedd allforio presennol a newydd ar gyfer eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Ers cyhoeddi’r cynllun, mae busnesau yng Nghymru wedi sicrhau gwerth mwy na £435 miliwn o fusnes allforio newydd o ganlyniad uniongyrchol i gymorth allforio Llywodraeth Cymru.

Mae arloesi a buddsoddiad yn parhau i fod yn ysgogwyr cynhyrchiant hanfodol, ac mae rhaglenni fel SMART Cymru yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth alluogi BBaChau i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd. Mae tystiolaeth yn dangos bod SMART Cymru yn cyflawni trosoledd uchel, gan gynhyrchu £7 o fuddsoddiad preifat dilynol am bob £1 o gyllid cyhoeddus, gan helpui ddadrisgio gweithgarwch ymchwil a datblygu a chryfhau piblinell arloesi Cymru.  Ochr yn ochr â hyn, mae galwadau ehangach a arweinir gan fusnesau am fframweithiau cyllido arloesi estynedig, gwell llwybrau at gyfalaf preifat, a mannau profi rheoleiddiol yn adlewyrchu pwyslais yr Adolygiad ar hybu gallu arloesi ar lefel cwmnïau . 

Mae datblygu sgiliau a'r gweithlu hefyd yn parhau i fod yn greiddiol i'r agenda cynhyrchiant. Nododd yr Adolygiad Cynhyrchiant BBaChau brinder sgiliau a mynediad cyfyngedig at hyfforddiant fel rhwystrau i dwf, ac mae camau yn cael eu cymryd drwy'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg i dargeducymwyseddau digidol, data ac AI. 

Y camau nesaf

Wrth i ni gyrraedd diwedd y tymor hwn, mae canfyddiadau'r Adolygiadau Tymor Byr eisoes wedi trosi'n  gynnydd diriaethol, gyda busnesau, partneriaid rhanbarthol a chyrff cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn rhoi argymhellion ar waith, ac yn helpu i droi cyfeiriad polisi'r llywodraeth hon yn newid ystyrlon i gwmnïau a chymunedau ledled Cymru. Mae'r cyflawniad cydlynol a'r ffocws hwn yn etifeddiaeth gref ar gyfer y dyfodol, yn ymgorffori llwybrau cymorth cliriach, yn cryfhau cydweithredu ar draws yr economi, ac yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer gwelliant hirdymor mewn cynhyrchiant, sgiliau ac arloesi.