Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad yr adolygiad annibynnol ar gostau gweinyddol Awdurdodau Lleol. Comisiynais yr adolygiad i edrych ar y posibilrwydd o drosglwyddo’r adnoddau sy’n cael eu gwario ar hyn o bryd ar swyddogaethau gweinyddol mewn Awdurdodau Lleol i helpu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru.   Mae’r adroddiad yn dangos fod Awdurdodau Lleol yn ystod 2013-14 wedi gwario tua 5.9% neu £470 miliwn o’u holl wariant ar weithgareddau gweinyddol. Mae hyn yn golygu fod perfformiad cyffredinol Awdurdodau Lleol yng Nghymru islaw cyfartaledd y sector o’i gymharu â Lloegr. Ond mae hefyd yn dangos fod  y gwariant gweinyddol hwn yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru, o 4% yng Nghonwy a Rhondda Cynon Taf i 10% yn Sir Fynwy.   Mae’r adroddiad yn nodi arbedion blynyddol potensial o hyd at £151 miliwn, cyn unrhyw uno Llywodraethau Lleol. O hyn, gall awdurdodau yng Nghymru wneud arbedion o oddeutu £33 miliwn drwy safoni eu gwaith i’r cyfartaledd yng Nghymru, a £45 miliwn ychwanegol drwy safoni i lefel cyfartaledd y sector yn Lloegr.    Mae prif argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: • Datblygu strategaeth TGCh Cymru gyfan;
• Ystyried symud gweithgareddau trafodion i ganolfannau prosesu mwy;
• Mabwysiadu model gweithredu arfer gorau ar gyfer swyddogaethau craidd cyfrifyddu ac adnoddau dynol;
• Adolygiad Cymru gyfan o reoli eiddo ac ystadau;
• Ad-drefnu gwasanaethau cyfreithiol, strategaeth a swyddogaethau cyfathrebu ar draws awdurdodau.   Mae adroddiad KPMG yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol ar y cyd, a hefyd yn cynnwys gwybodaeth benodol i Awdurdodau Lleol unigol. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu cynllun gweithredu i symud ymlaen gyda’r argymhellion hyn i wireddu'r arbedion sydd ar gael.