Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin 2022 gofynnais i Sharron Lusher arwain adolygiad o’r sefyllfa o ran cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.

Mae Sharron yn gyn-bennaeth Coleg Sir Benfro ac yn uchel ei pharch. Cyn cadeirio'r adolygiad, roedd yn aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru, gyda phrofiad uniongyrchol o gefnogi dysgwyr sy'n ymgymryd â dysgu ôl-orfodol. Mae'r adolygiad wedi bod yn annibynnol ar y Llywodraeth.

Gyda chefnogaeth Grŵp Llywio yn cynnwys uwch arweinwyr o'r sectorau addysg a busnes, mae Sharron wedi cyflwyno adroddiad manwl a chynhwysfawr i mi, sy'n cynnwys 33 o argymhellion. Diolch i Sharron ac aelodau’r Grŵp Llywio am yr holl waith caled ac ymdrech sydd wedi mynd i mewn i'r adroddiad.

Rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad heddiw. Gall aelodau gael gafael ar gopi yma:

Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru: adroddiad

Roedd comisiynu'r adolygiad yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, i wireddu’r uchelgais rydym yn ei rhannu i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru. Ysgogwyd hyn hefyd gan yr angen i fod yn glir ynghylch pwrpas cymwysterau galwedigaethol ac asesu pa mor dda y mae'r cynnig presennol yng Nghymru yn bodloni anghenion dysgwyr a'r gymuned ehangach.

Rwy'n croesawu'r adroddiad a'i asesiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Bydd angen ystyried yr argymhellion ymhellach ac yn fwy manwl, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ystyried pob argymhelliad yn fanwl, gan gynnwys y goblygiadau o ran adnoddau a chyllideb.

Mae’n amlwg bod cydweithio yn allweddol i lawer o’r argymhellion hyn, os nad y cwbl. Ni all, ac ni ddylai, y Llywodraeth hon geisio eu cyflawni wrth ein hunain. Mae rhai o argymhellion yr adroddiad yn syrthio ar ysgwyddau sefydliadau eraill – er enghraifft Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) newydd. Er na allaf siarad ar ran sefydliadau eraill nac ymrwymo i ddim ar eu rhan, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio’n gydweithredol ar draws y sector a chael sgyrsiau perthnasol gyda’r cyrff yma am yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni. Mae cysylltiadau hefyd rhwng canfyddiadau adroddiad Hefin David, Pontio i Fyd Gwaith ac argymhellion yr adolygiad hwn, y byddwn yn eu harchwilio ymhellach.

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr argymhellion i'r Aelodau maes o law.