Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gweithrediadau busnesau bwyd ac ymddygiad prynwyr wedi esblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i’r DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig COVID-19, a digwyddiadau mewn rhannau eraill o’r byd. Mae datblygiadau technolegol, arloesi ym myd busnes, a datblygiadau digidol hefyd yn newid y dirwedd busnes bwyd, gan greu heriau rheoleiddio newydd.

Y llynedd, ymrwymodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i weithredu rhaglen i adolygu a diwygio rheoleiddio er mwyn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer rheoleiddio bwyd yn parhau yn gymesur ac yn briodol, heb gyfaddawdu ar y safonau uchel presennol sydd ar waith i ddiogelu’r cyhoedd a chynnal hyder y prynwr.  

Ysgrifennais at Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd (Cymru), a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn nodi fy nisgwyliadau ar gyfer y rhaglen hon, gan ei gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw ddiwygiadau rheoleiddiol adlewyrchu’r sefyllfa o ran busnes a rheoleiddio yng Nghymru, a sicrhau’r un lefel, neu lefel uwch, ar gyfer safonau diogelwch bwyd. Hefyd rwyf wedi ailbwysleisio’r egwyddorion yr wyf yn disgwyl i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, awdurdodau lleol, a swyddogion Llywodraeth Cymru gadw atynt wrth gyflawni eu gwaith, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu y cytunwyd arno rhwng y partïon hyn a Chynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r cytundeb i’w weld yn Adolygu a diwygio’r drefn rheoleiddio busnesau bwyd yng Nghymru.

Byddaf yn sicrhau bod Aelodau’r Senedd yn cael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith hwn wrth i’r rhaglen ddatblygu a chyflawni ei hamcanion.