Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais imi gomisiynu adolygiad ffurfiol o Hybu Cig Cymru (HCC). HCC yw’r corff sy’n gyfrifol am godi ardollau amaethyddol ar y sector cig coch yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n berchen arno ond mae’n cael ei redeg yn annibynnol arni. Mae’n hyrwyddo ac yn marchnata cynnyrch cig o Gymru yn y DU a thu hwnt ac yn gweithio i godi safonau yn y sector cig coch yng Nghymru. Gwna hyn drwy hyfforddi, trosglwyddo technegol a gwybodaeth i ffermwyr a chyrff eraill y diwydiant, yn ogystal â thrwy ymchwil a datblygu.

Dechreuwyd yr adolygiad ddechrau’r flwyddyn a chaiff yr adroddiad arno ei gyhoeddi yn yr haf. Mae Kevin Roberts wedi siarad ag amrywiaeth eang o bobl er mwyn pwyso a mesur rôl HCC a’i allu i roi gwerth eu harian i Lywodraeth Cymru ac i dalwyr yr ardoll. Bydd adolygiad Kevin yn dylanwadu ar y penderfyniad ynghylch a ddylai HCC gael parhau â’i waith ac os felly, sut. Nid yw’r adolygiad wedi’i gwblhau eto, mae llawer o bobl eto gennym  i siarad â nhw ond roeddwn am rannu’r sefyllfa hyd yma â chi.

Canfyddiadau cyntaf Kevin yw:

  • dylid cadw’r ardoll statudol
  • HCC yw’r cyfrwng addas o hyd i gasglu a gwario’r ardollau statudol
  • dylai rôl HCC o ran datblygu’r farchnad barhau ond mae angen ei diwygio
  • mae angen cydgysylltu’r gwaith o ddatblygu’r diwydiant yn well gyda gwasanaethau eraill sydd ar gael yn y farchnad i drosglwyddo gwybodaeth, e.e. Cyswllt Ffermio.
  • daw budd i HCC a Llywodraeth Cymru pe baen nhw’n cydweithio mwy â’i gilydd a thrwy drefniadau llywodraethu agosach
  • dylai holl aelodau bwrdd HCC gyfrannu fwy at ddatblygu cynlluniau strategol a chorfforaethol. Canlyniad hynny fyddai strategaeth sy’n perthyn i’r bwrdd cyfan. Bydd hynny’n ei dro yn caniatáu i bob aelod gyflawni’n well ei rôl bwysig o arwain gwaith HCC a chyfathrebu â’r diwydiant ehangach
  • o ran ei atebolrwydd i’r diwydiant, dylai HCC ymwneud fwy â thalwyr yr ardoll.  Dylai holl aelodau’r bwrdd fod yn gyfrifol am hyn.

Hoffwn ddiolch i Kevin Roberts am ei waith hyd yma ac i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn at yr adolygiad.