Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (‘y Rheoliadau’) yn gorfodi cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau, ar symudiadau pobl, ac ar weithrediaeth busnesau, gan gynnwys cau busnesau. Maent hefyd yn gorfodi gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unigolion yn cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Gwnaed hyn er mwyn diogelu pawb rhag lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). 

O dan reoliad 3(2), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am ofynion a chyfyngiadau yn y rheoliadau, a’u cymesuredd, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhaliwyd y pumed adolygiad o’r rheoliadau hyn yr wythnos hon. 

Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn dangos bod y coronafeirws yn parhau i leihau yng Nghymru. Mae nifer yr achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau wedi gostwng, yn dilyn cynnydd yn ddiweddar yn sgil achosion mewn ffatrïoedd prosesu cig a bwyd yn Wrecsam ac Ynys Môn a digwyddiad ym Merthyr Tudful. 

Mae ein system Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio'n dda – mae’r system hon wedi chwarae rhan hanfodol yn ein hymateb i’r pandemig coronafeirws ers ei lansio a bydd yn allweddol wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau. 

Fel yr wyf eisoes wedi amlinellu, mae Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru yn dweud bod pob newid i fesurau’r cyfyngiadau yn cael effaith gronnol. Dylid felly gyflwyno’r newidiadau fesul cam a'u monitro'n ofalus.

Rydym eisoes wedi gwneud llawer o newidiadau sylweddol i'r cyfyngiadau yng Nghymru mewn cylchoedd adolygu diweddar, gan gynnwys codi'r gofyniad i aros yn lleol a chyflwyno aelwydydd estynedig yn yr wythnos diwethaf. 

Byddwn yn parhau i weithredu fesul cam i alluogi gwasanaethau cyhoeddus i ailddechrau mwy o wasanaethau hanfodol – mae gan bob disgybl nawr y cyfle i ddychwelyd i’r ysgol i ailgydio a dal i fyny cyn gwyliau’r haf, er enghraifft.

Byddwn hefyd yn defnyddio peth o’r hyblygrwydd sydd gennym i alluogi’r GIG i ddarparu mwy o ofal a thriniaeth hanfodol – mae gwasanaethau sgrinio am ganser wedi ailddechrau; mae gwasanaethau deintyddol ac optometreg wedi symud i’r cam oren ac mae gan fyrddau iechyd nawr gynlluniau chwarter dau. Diolch i dechnoleg ymgynghori dros fideo, roedd modd i filoedd o bobl gael gofal sylfaenol ac eilaidd pan oedd y pandemig ar ei anterth, ac rydym yn cyflwyno’r dechnoleg hon i bractisau deintyddol, optometryddion a fferyllfeydd cymunedol, fel y gall pobl gael gofal iechyd yn gyflym ac yn ddiogel.

Ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth a dangosyddion, mae’r amodau yn cefnogi camau graddol i lacio’r cyfyngiadau ar draws nifer o feysydd. 

Byddwn eto yn gweithredu o wythnos i wythnos o ran codi'r cyfyngiadau ymhellach yng Nghymru. 

Yn yr wythnos gyntaf, bydd llety gwyliau hunangynhwysol heb gyfleusterau a rennir yn ailagor o ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf ymlaen.   

O ddydd Llun 13 Gorffennaf ymlaen, bydd y sectorau a’r busnesau canlynol yn gallu agor, ar yr amod eu bod yn dilyn y canllawiau ar ffyrdd diogel o weithredu o ran y coronafeirws.

  • Salon trin gwallt a barbwr, gan gynnwys pobl trin gwallt symudol.
     
  • Tafarndai, bariau, bwytai a chaffis awyr agored.
     
  • Sinemâu awyr agored.
     
  • Atyniadau dan do i ymwelwyr, ac eithrio nifer bach o atyniadau tanddaearol a fydd yn gorfod parhau i fod ar gau am y tro oherwydd y risg uwch yn gysylltiedig â'r amgylchiadau hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r atyniadau hyn tuag at eu hailagor yn ddiogel.
     
  • Mannau addoli. Gall arweinwyr ffydd ddechrau ail-gynnal gwasanaethau eto yn raddol pan fyddant yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny.

Rydym yn gwneud newidiadau i’r rheoliadau i ganiatáu cynulliadau mwy yn yr awyr agored o hyd at 30 o bobl, pan fyddant wedi'u trefnu ac yn cael eu goruchwylio gan berson cyfrifol. Bydd hyn yn caniatáu i weithgareddau chwaraeon a hamdden, megis dosbarthiadau ffitrwydd a dawnsio gael eu cynnal yn yr awyr agored, yn ogystal ag addoli ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys elusennau, busnesau a chlybiau chwaraeon a bydd angen cynnal asesiad risg.

Yn yr ail wythnos, o 20 Gorffennaf ymlaen, byddwn yn cael gwared ar y cyfyngiadau presennol ar feysydd chwarae a champfeydd awyr agored. Bydd y rhain yn ailagor yn raddol dros yr wythnosau nesaf pan fydd gwiriadau diogelwch a mesurau eraill yn cael eu rhoi ar waith. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau i helpu canolfannau cymunedol i ailddechrau mwy o wasanaethau cyhoeddus yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol. Bydd hyn yn eu galluogi i weithredu mewn ffordd sy'n ddiogel o ran y coronafeirws.

Dylai hyn gael effaith gadarnhaol drwy ehangu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr yn y gymuned, gan gynnwys cefnogi ymdrechion diogelu i ymateb i nifer o'r problemau sydd o bosibl wedi cael eu cuddio, neu wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau, yn anffodus. Ymysg y gwasanaethau hanfodol hynny y mae gwasanaethau gwaith ieuenctid a ddarperir gan sefydliadau gwirfoddol ac awdurdodau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc a'r sector i ddatblygu canllawiau penodol i'w helpu i ailagor yn ehangach, a bydd hyn yn dilyn yn fuan wedi hynny. Bydd ailagor canolfannau cymunedol hefyd yn helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros yr haf.

Yn y drydedd wythnos, byddwn yn edrych eto ar y cyngor a'r dystiolaeth iechyd ddiweddaraf ac yn ystyried ailagor y meysydd canlynol o 27 Gorffennaf ymlaen.  Bydd penderfyniad terfynol yn dibynnu ar y sefyllfa iechyd ar y pryd a bydd angen i’r paratoadau angenrheidiol fod wedi cael eu rhoi ar waith:

  • Gwasanaethau cyswllt agos, gan gynnwys salonau ewinedd a harddwch a busnesau sy'n darparu gwasanaethau tywyllu'r croen, tylino, tyllu'r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.
     
  • Pob math o lety i dwristiaid sy'n weddill, sydd wedi bod ar gau yn sgil risgiau ychwanegol sy'n gysylltiedig â rhannu cyfleusterau, megis meysydd pebyll. Byddai’r rhain yn agor o 25 Gorffennaf ymlaen.
     
  • Sinemâu, amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau dan do.
     
  • Ailagor y farchnad dai yn llawn i ganiatáu ymweliadau ag eiddo wedi’i feddiannu.

Cynhelir yr adolygiad ffurfiol nesaf o'r Rheoliadau ar 30 Gorffennaf. Rydym eisoes yn cynnal trafodaethau manwl gyda diwydiant am sut y gall busnesau lletygarwch weithredu dan do mewn ffordd sy'n ddiogel o ran y coronafeirws. Rydym yn ystyried ailagor y maes hwn o 3 Awst ymlaen, gan ddibynnu ar yr amodau a chyhyd â bod mesurau wedi’u rhoi ar waith.

Cyn yr adolygiad nesaf, byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr eraill i ddeall sut y gall campfeydd, canolfannau hamdden, stiwdios ffitrwydd a phyllau nofio gymryd camau lliniaru er mwyn gallu agor yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i waith penodol gael ei wneud ynglŷn â phyllau nofio a’r coronafeirws.

Rydym hefyd wedi adolygu’r dystiolaeth ar y gofyniad 2 fetr, a nodir yn ein Rheoliadau.

Y cyngor yr ydym wedi’i gael gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yw bod y dystiolaeth dros gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn glir o ran yr effaith uniongyrchol ar iechyd: mae cadw 2 fetr o bellter yn rhoi mwy o ddiogelwch nag 1 metr – tua dwy i bum gwaith y diogelwch yn absenoldeb unrhyw fesurau eraill i ddiogelu unigolyn.

Fodd bynnag, gellir cymryd nifer o gamau i leihau'r risg o drosglwyddo’r coronafeirws pan nad yw cadw pellter o 2 fetr bob amser yn ymarferol, megis ar drafnidiaeth gyhoeddus neu pan nad oes modd cynnal busnes a chadw pellter o 2 fetr.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf ar y camau lliniaru ychwanegol hyn, er mwyn ei gwneud yn glir beth a ddisgwylir gan bobl mewn amgylchiadau eithriadol pan nad yw'n bosibl cadw pellter o 2 fetr. Rhaid cadw at y canllawiau hyn, ac fe gyfeirir atynt yn y Rheoliadau.

Rwy'n ddiolchgar iawn i randdeiliaid a grwpiau cynrychioladol ledled Cymru o’r sectorau amrywiol am weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y misoedd a’r wythnosau diwethaf i baratoi at y camau llacio pwysig hyn, gan gynnwys y cymorth i lunio canllawiau.  

Yn yr un modd, rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu hymdrechion a'u cefnogaeth barhaus wrth fynd i'r afael â'r pandemig hwn. Daliwn ati i ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.