Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau, symudiad pobl a’r modd y caiff busnesau weithredu. Fe’i cynlluniwyd i ddiogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).                                                          

Gweithiom gyda llywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon a’r DU i gytuno ar gynllun cyffredin ar gyfer y pedair gwlad dros gyfnod yr ŵyl. 

Ni fydd y Nadolig hwn yn un “arferol”. Ond, ar ôl blwyddyn hir ac anodd, yn sgil dod i gytundeb ar set o fesurau cyffredin rhwng 23 Rhagfyr a 27 Rhagfyr, a gaiff eu hadlewyrchu yn rheoliadau Cymru, bydd pob un yn cael cyfle i dreulio rhywfaint o amser gyda ffrindiau agos a theulu:

  • Bydd cyfyngiadau teithio rhwng y pedair gwlad a rhwng y gwahanol haenau yn cael eu codi yn ystod y cyfnod hwn.
  • Bydd hyd at dair aelwyd yn gallu creu ‘swigen’ ddethol ar gyfer y Nadolig i gyfarfod gartref yn ystod y cyfnod hwn. Er mwyn cydnabod y perygl y bydd unigolion yn teimlo’n unig ac yn ynysig bydd aelwydydd sy’n cynnwys un oedolyn sengl hefyd yn gallu ymuno â swigen, fel yn Lloegr.
  • Gall pob swigen a gaiff ei chreu ar gyfer y Nadolig gyfarfod gartref, mewn man addoli neu mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored.

Mae’r coronafeirws yn ffynnu pan fyddwn yn dod at ein gilydd ac mae risg bob amser wrth i bobl ddod ynghyd i ddathlu’r Nadolig y byddant yn dal y feirws neu’n ei ledaenu. Mae’n bwysig felly, yn y cyfnod hyd at 23 Rhagfyr, ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod cyfraddau yn isel.

Yn anffodus, mae’r coronafeirws yn dechrau cyflymu unwaith yn rhagor ar draws Cymru. Mae unrhyw gynnydd a wnaed gennym yn ystod y cyfnod atal byr yn dechrau erydu. Mae’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan wedi codi i bron i 210 o achosion fesul 100,000 o bobl ac mae 1,000 o unigolion y cadarnhawyd bod ganddynt y coronafeirws yn ein hysbytai ar hyn o bryd.   

Mae’r ffigurau hyn yn destun cryn bryder a rhaid inni gymryd camau pellach, wedi’u targedu, i ddiogelu iechyd pobl a lleihau cyflymder a lledaeniad y coronafeirws. Mae angen inni hefyd sicrhau ein bod yn creu cymaint o gyfle â phosibl wrth inni agosáu at gyfnod y Nadolig i ganiatáu inni lacio’r cyfyngiadau.

Bydd y cyfyngiadau yn cael eu hatgyfnerthu er mwyn canolbwyntio ar fannau lle rydym yn cyfarfod â’n gilydd a lle mae’r coronafeirws yn ffynnu. Rydym wedi tynnu oddi ar dystiolaeth ddiweddar gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau’r DU, sydd wedi ymchwilio i weld pa gyfyngiadau sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y feirws. Tynnwyd sylw yn y dystiolaeth honno at effaith gadarnhaol y mesurau yn system lefel tri'r Alban a chyfyngiadau haen tri Lloegr. Mae llawer o’r cyfyngiadau hynny ar waith gennym eisoes yng Nghymru a byddwn yn addasu mesurau eraill at amgylchiadau penodol Cymru.

O 6pm ddydd Gwener, bydd ein mesurau cenedlaethol yn cael eu diwygio i gyflwyno cyfyngiadau newydd ar gyfer busnesau lletygarwch ac atyniadau dan do.

  • Rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau erbyn 6pm, ac ni fyddant yn cael gweini alcohol. Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaethau tecawê y gallant eu darparu. 
  • Rhaid i leoliadau adloniant dan do, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae meddal, casinos, lloriau sglefrio ac arcedau difyrion, gau.
  • Bydd yn rhaid cau atyniadau i ymwelwyr, megis amgueddfeydd, orielau, a safleoedd treftadaeth hefyd. Bydd atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn aros ar agor.

Bydd y gweddill o’r mesurau cenedlaethol yn aros yr un fath – ni fydd unrhyw newidiadau i swigod aelwydydd, faint o bobl sy’n gallu cyfarfod mewn mannau cyhoeddus o dan do neu yn yr awyr agored, neu gyfyngiadau ar fusnesau eraill.

Rydym yn edrych ar y cyfyngiadau teithio presennol i sicrhau eu bod yn iawn i Gymru, yng ngoleuni’r ffaith fod y cyfyngiadau symud am gyfnod o fis yn Lloegr ar fin dod i ben. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae'r sectorau lletygarwch a thwristiaeth wedi gweithio'n galed i gydymffurfio â'r rheoliadau niferus i sicrhau bod eu busnesau’n cydymffurfio ac i ddiogelu cwsmeriaid rhag bygythiad y coronafeirws. Rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth y mae'r sector wedi'i wneud. Gwn y bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn anodd wrth iddynt ddod ar un o adegau prysuraf y flwyddyn.

I gefnogi busnesau byddwn yn sicrhau bod pecyn cymorth ychwanegol gwerth £340m ar gael drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd. Mae hwnnw’n cynnwys cronfa o £180m sy’n targedu busnesau lletygarwch a thwristiaeth.

Gyda’i gilydd mae’r mesurau hyn yn parhau â’n penderfyniad i ddiogelu bywydau a ffyrdd o fyw yn ystod argyfwng y coronafeirws yng Nghymru.

Rwy'n gofyn am gymorth pobl Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol unwaith eto i hynt y feirws hwn – ac yn y pen draw i achub bywydau. Gyda'n gilydd byddwn yn diogelu Cymru.

Edrychaf ymlaen at wneud datganiad pellach yn y Senedd yfory.