Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau, symudiad pobl a’r modd y caiff busnesau weithredu. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

Ar 30 Tachwedd amlinellais gyfyngiadau ychwanegol ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys ynglŷn â’r sector lletygarwch. Nod y cyfyngiadau hyn yw diogelu iechyd pobl a lleihau cyflymder a lledaeniad y coronafeirws, gan greu cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth i gyfnod y Nadolig nesáu.

Rhoddais wybod i’r Aelodau y byddem hefyd yn ystyried y cyfyngiadau teithio presennol i sicrhau mai dyma’r rhai cywir i Gymru, yn sgil diwedd y mis o gyfyngiadau cenedlaethol yn Lloegr.

Mae cyfyngiadau teithio yn rhan bwysig o’n pecyn cyffredinol i leihau lledaeniad y feirws. Bydd cyfuniad o reoliadau a chanllawiau felly’n ceisio mynd ati mewn ffordd gymesur i leihau’r risg o allforio a mewnforio achosion o ardaloedd sydd â niferoedd uchel o’r feirws.

Bydd y rheoliadau yng Nghymru yn cyfyngu ar deithio i ardaloedd yn Haen 3 yn Lloegr a Lefel 3 ac uwch yn yr Alban, ac ar deithio o’r ardaloedd hyn (mae Gogledd Iwerddon yn parhau o dan gyfyngiadau symud cenedlaethol).

Bydd y canllawiau yn parhau i bwysleisio’r risg o ledaenu’r feirws os bydd pobl yn teithio i ardaloedd yn Haen 2 / Lefel 2 neu is mewn rhannau eraill o’r DU, ac os byddant yn teithio o’r ardaloedd hyn. Felly, ni fydd teithio i’r ardaloedd hyn, nac ohonynt, yn cael ei gynghori o hyd. Bydd angen i deithwyr fod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol yn y gwledydd hynny, a chadw atynt.

Bydd teithio rhyngwladol yn parhau i gael ei gyfyngu gan y rheoliadau cwarantîn, sy’n debygol o barhau i fod ar waith tan fis Ionawr o leiaf ac a fydd yn cael eu hadolygu'n gyson.

Ynghyd â’n mesurau eraill, bydd y cyfyngiadau angenrheidiol hyn yn helpu i Ddiogelu Cymru.