Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 8 Hydref

Mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru wedi cwympo i ryw 500 o achosion fesul 100,000 o bobl, hynny o’r uchafbwynt o 650 o achosion fesul 100,000 o bobl ar 23 Medi 2021. Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty gydag achosion tybiedig neu wedi’u cadarnhau o Covid-19 yn sefydlog, er bod y GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal i fod o dan bwysau trwm o ganlyniad i gyfuniad o’r pandemig a phwysau’r gaeaf.

Barn ein cynghorwyr gwyddonol a meddygol yw bod cyfraddau’r achosion yn dal i fod yn uchel ond bod brechu wedi lleihau lefelau’r niwed a’u bod ar hyn o bryd yn sefydlog.

Rydym wedi adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd – bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf.

Ymddengys bod ton yr amrywiolyn delta wedi cyrraedd ei hanterth yng Nghymru a bod yr achosion yn dechrau gostwng. Er hynny, mae’r nifer sydd wedi’u heintio’n dal i fod yn uchel ym mhob rhan o’r wlad ac nid yw’r pandemig ar ben.  Mae’n bwysig ein bod ni oll yn cymryd camau i’n diogelu’n hunain a’n hanwyliaid.

Ein hamddiffyniad gorau o hyd yw’r brechiad.  Dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru a byddwn yn annog pawb i dderbyn y cynnig i gael y brechlyn.

Gallwn gadw Cymru’n ddiogel ac yn agored trwy fynd am brawf os oes symptomau’r coronafeirws arnon ni a hunanynysu os yw’r yn canlyniad yn bositif; dylen ni gwrdd â phobl yn yr awyr agored os medrwn a sicrhau bod mannau dan do wedi’u hawyru’n dda; dylen ni gadw pellter pan fedrwn; golchi’n dwylo’n rheolaidd; gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus; a gweithio gartref os yw hynny’n bosibl.

Ni fydd newid arwyddocaol i fesurau’r rhybudd lefel sero yn y cylch tair wythnos hwn heblaw am y rheidrwydd ar i bob oedolyn dros 18 oed ddangos Pas Covid i gael mynediad i rai lleoliadau a digwyddiadau o 18 Hydref.

Bydd angen Pas Covid i gael mynediad i:

  • Glybiau nos a lleoliadau tebyg
  • Digwyddiadau dan do ar gyfer mwy na 500 o bobl, heb seddi
  • Digwyddiadau awyr agored ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, heb seddi
  • Digwyddiadau ar gyfer mwy na 10,000 o bobl.

Byddwn yn gwneud nifer o newidiadau technegol i’r rheoliadau er mwyn:

  • Ei gwneud yn gliriach y caiff unigolyn adael ei le ynysu i osgoi peri salwch, niwed neu risg o niwed i unigolyn arall neu i symud i le gwahanol i fyw rhag peri salwch i unigolyn arall;
  • Ei gwneud yn glir pryd, at ddiben y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR), y caiff olrheinwyr cysylltiadau weld gwybodaeth am statws brechu unigolyn;
  • Ei gwneud yn glir yr ystyrir bod pobl sy’n cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol mewn lleoliad a ddefnyddir fel arfer fel man addoli, yn eistedd at ddiben rheoliad 16A(1) o’r prif Reoliadau (gofynion y pas Covid).  Yn ymarferol, mae hyn yn golygu nad yw’r gofynion hynny’n gymwys i wasanaeth crefyddol a gynhelir mewn lleoliad a ddefnyddir fel arfer fel man addoli;
  • Sicrhau cysondeb â’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol trwy ychwanegu gwledydd at y rhestr o frechlynnau derbyniol at ddiben y Pas Covid;
  • Ei gwneud yn glir bod rheoliad 57(9) y Prif Reoliadau, sy’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phryd na chaiff crynhoad neu ddigwyddiad ei drin fel un “awyr agored”, yn gymwys i bob crynhoad a digwyddiad; a
  • Hepgor y ddarpariaeth bontio yn rheoliad 10A sydd bellach wedi dod i ben.

Rydym yn diweddaru’r canllawiau ar ymweld â chartrefi gofal i’w gwneud hi’n haws i bobl allu ymweld â theulu a ffrindiau.

Rydym hefyd yn diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy’n ategu’r cynlluniau ehangach sydd wedi’u paratoi ar draws y gwasanaethau cyhoeddus at y gaeaf, gan gynnwys yn y GIG a gofal cymdeithasol.  Caiff cynllun gaeaf y GIG ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn y mis. 

Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: diweddariad hydref a gaeaf (Hydref 2021).