Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygwyd y cyfyngiadau coronafeirws ddiwethaf ar 18 Mehefin pan wnaethom rewi camau i symud yn llwyr i lefel rhybudd un am bedair wythnos. Bydd y cyfnod hwn yn helpu i leihau’r nifer dyddiol uchaf o gleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai, gan ei haneru o bosibl, ac yn rhoi amser i fwy o bobl gael eu hail ddos o frechlyn.

Rydym wedi cynnal yr adolygiad tair wythnos ffurfiol o’r rheoliadau yr wythnos hon. Rydym wedi ystyried y data a’r dystiolaeth yn ofalus ac yn cadarnhau y dylai’r cyfyngiadau sydd mewn grym gael eu cadw tan o leiaf yr adolygiad rheoleiddiol nesaf. Bydd yr adolygiad hwnnw’n cael ei gynnal erbyn 15 Gorffennaf.