Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref, rhoddais wybod i’r Aelodau fy mod wedi gofyn i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru adolygu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.

Hoffwn ddiolch i'r Grŵp am gyflwyno eu hadroddiad, o fewn amserlen dynn iawn. Rwyf bellach wedi ystyried yr argymhellion cynhwysfawr ac wedi cyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad heddiw.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sawl mater. Mae anghysondeb o ran archwilio a sut y gorfodir y Rheoliadau yn thema allweddol. Mynegir pryderon hefyd ynghylch defnyddio'r gymhareb rhwng staff a chŵn llawndwf mewn safleoedd bridio ac mae'n amlwg bod angen mynd i'r afael â hynny. Mae argymhelliad arall yn hoelio sylw ar yr angen am well safonau lles ar gyfer pob ci bridio yn hytrach na chŵn safleoedd trwyddedig yn unig.

Gan fod modd mabwysiadu llawer o'r argymhellion, gan gynnwys y gymhareb rhwng staff a chŵn llawndwf, o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth bresennol, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen â hynny fel mater o frys.

Dim ond drwy newid deddfwriaethol y mae modd ymdrin â rhai o’r argymhellion. Fodd bynnag, i reoliadau newydd fod yn effeithiol, rhaid inni hefyd fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau i orfodi y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu cyn cynnig i ddiwygio’r Rheoliadau Bridio presennol. Mae'r angen am gysondeb o ran y ffordd y mae awdurdodau lleol yn archwilio a gorfodi yn hollbwysig er mwyn sicrhau lles cŵn bridio a'u cŵn bach. Nid yw safleoedd bridio cŵn wedi'u gwasgaru'n gyfartal ar draws Cymru ac mae hynny'n golygu bod rhai awdurdodau lleol yn ei chael yn anodd ymdopi â'r galwadau.

Gyda hyn mewn cof, mae prosiect cwmpasu ar waith i benderfynu pa adnodd ychwanegol sydd ei angen i sicrhau bod yr holl sefydliadau bridio trwyddedig ar draws Cymru yn cael eu trin yn yr un ffordd.

Ar ôl penderfynu pa adnodd priodol sydd ei angen, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer cynllun peilot am dair blynedd i feithrin arbenigedd drwy hyfforddiant arbenigol ac uwchsgilio staff awdurdodau lleol.

Mae argymhellion yr adroddiad o blaid gwahardd gwerthu cŵn drwy drydydd parti. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn ei gweld yn werth chweil gwahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach drwy drydydd parti a byddaf yn ymrwymo i ddeddfu hyn cyn diwedd y Senedd hon.

Bydd y cyfuniad o reoliadau newydd ar werthu anifeiliaid anwes a chymorth ariannol neilltuedig i wella'r ffordd y caiff y Rheoliadau Bridio presennol eu gorfod a'u cyflenwi, yn arwain at welliannau parhaol i safonau lles cŵn bach sy'n cael eu bridio yng Nghymru.