Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 15 Medi cyhoeddwyd Siarter ddrafft a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC gan Lywodraeth y DU.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi'i chynnwys yn y broses o Adolygu'r Siarter, fel yr amlinellwyd yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y cytunwyd arno yn 2015 rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC a Gweithrediaeth y BBC.
Mae ein cyfraniad uniongyrchol at y broses o Adolygu'r Siarter wedi bod yn hanfodol. Mae wedi sicrhau cynnydd cadarnhaol mewn nifer o feysydd allweddol sydd bellach wedi'u cynnwys yn y Siarter ddrafft a'r Cytundeb Fframwaith drafft.  Rydym wedi cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig eraill, y BBC ac Ofcom i gyflawni hynny.
Mae'r Siarter yn rhoi pwrpas cyhoeddus llawer cryfach i'r BBC i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu'r cymunedau amrywiol yng Nghymru a gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Wrth wneud hynny, rhaid i’r BBC hefyd gefnogi economïau creadigol ar draws y DU – gan gynnwys y diwydiannau creadigol llwyddiannus sydd gennym yma yng Nghymru. Mae hynny'n golygu y gallwn ddisgwyl cynnwys a rhaglenni gwell ar gyfer Cymru, am Gymru – ac yng Nghymru – ar draws gwasanaethau'r BBC. Roedd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC wedi gwneud nifer o addunedau cyhoeddus pwysig i Gymru ym mis Mai 2016, gan gynnwys cyllid ychwanegol i wella gwasanaethau a chynnwys mwy penodol i Gymru. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weld y rhain yn cael eu cyflawni. Byddwn yn nodi'n arbennig y targedau o ran arbedion sylweddol a gyhoeddwyd gan BBC Cymru Wales yr wythnos diwethaf. Rhaid i'r cyllid newydd a addawyd i Gymru fod yn gyllid  ychwanegol gwirioneddol. Nid wyf yn disgwyl i Fwrdd y BBC roi'r holl arbedion lleol hyn neu rywfaint ohonynt yn ôl i Gymru. 

Bydd rhaid i'r BBC amlinellu yn ei gynlluniau blynyddol, sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau newydd, gan gynnwys gwella gwasanaethau i Gymru.  Mae'n ofynnol iddo adrodd yn fanwl ar ba mor dda y mae'n cyflawni ei amcanion yn erbyn y cynlluniau hyn. Bydd Ofcom yn gallu rheoleiddio i sicrhau bod y BBC yn gwneud mwy, os yw'r nodau y mae wedi'u pennu yn annigonol neu os nad yw'n eu cyflawni. Cyfarfûm â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Ofcom ar 19 Medi, a phenderfynwyd y byddwn yn cydweithio'n agos ag Ofcom i sicrhau ei fod yn deall am yr hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl - ac yn ei haeddu - gan y BBC dros gyfnod nesaf y Siarter.
Yn bwysicach na dim, bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau hefyd o hyn allan i graffu ar y BBC, i'w alw i ymddangos ger bron y Cynulliad, ac i'w ddwyn i gyfrif yn uniongyrchol - hawl Senedd y DU yn unig fu hwnnw hyd yma. Rwyf wedi bod o'r farn erioed y dylai Darlledwyr y Gwasanaeth Cyhoeddus fod yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na'r Llywodraeth, felly rwy'n credu bod hwn yn gam pwysig ymlaen i Gymru.  
Bydd gan fwrdd newydd y BBC aelod anweithredol dros Gymru. Swydd yr aelod hwnnw fydd sicrhau y deellir buddiannau Cymru a bod camau'n cael eu cymryd i'w sicrhau gan y BBC, o'r pen uchaf i lawr. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fawr yn y gwaith o recriwtio'r aelod dros Gymru - a bellach, mae angen ein cydsyniad cyn iddynt allu penodi aelod.

Mae'r Siarter newydd yn sicrhau ymrwymiad newydd i wasanaethau'r Gymraeg ac mae'r Cytundeb Fframwaith yn cadarnhau partneriaeth y BBC ag S4C. Y nod yw sicrhau bod y ddau gorff yn cydweithio i gadw a diogelu annibyniaeth ei gilydd. Mae hefyd yn sicrhau setliad ariannol cadarn mewn perthynas â chyllid S4C o ran ffi'r drwydded, sy'n hanfodol bwysig i S4C allu parhau i ddatblygu ei gwasanaethau. 

Am y tro cyntaf, mae'r Siarter hon yn diogelu rôl Llywodraeth Cymru yn adolygiadau'r Siarter yn y dyfodol. Felly, o hyn allan rydym mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod anghenion cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru yn cael eu hystyried bob tro y bydd cyfrifoldebau'r BBC yn cael eu hadnewyddu.
Mae angen trafod rhai manylion o hyd dros yr wythnosau nesaf, er mwyn inni gytuno ar Siarter derfynol a fydd yn cyflawni hyd yn oed mwy i Gymru.  Bydd fy nghyfarfod ar 26 Medi â Karen Bradley AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn gyfle i siarad am y manylion hyn yn uniongyrchol. A bydd y Cyfarfod Llawn sydd i'w gynnal ar 27 Medi yn caniatáu trafodaeth fanwl am gynnwys y Siarter ddrafft.