Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, rhoddais wybod i’r Aelodau fy mod yn bwriadu comisiynu adolygiad annibynnol o swyddogaeth a chyfrifoldebau Comisiynydd Plant Cymru. Mae’r Comisiynydd presennol, Keith Towler ei hunan wedi gofyn am adolygiad o’r fath ac mae ef a’i dîm wedi cynnig helpu gyda’r broses ymarferol.  

Wrth gomisiynu’r adolygiad hwn, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod gennym Gomisiynydd Plant â rôl bendant a chlir a fyddai’n gweithio mor effeithiol ag y bo modd er lles plant a phobl ifanc Cymru. Ystyrir eisoes bod Cymru ar flaen y gad o ran cyflawni Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac roeddwn am gryfhau’r enw da  hwn ymhellach.
 
Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgan y cynhelir adolygiadau o swyddogaethau Comisiynwyr eraill Cymru maes o law hefyd.

Heddiw, byddaf yn cyhoeddi bod y Dr Mike Shooter CBE wedi’i benodi i arwain yr adolygiad hwn. Mae Dr Shooter yn gyn ymgynghorydd seicitatreg plant a phobl ifanc ac mae wedi gweithio mewn swyddi uchel eu proffil gydag elusennau a sefydliadau megis Plant yng Nghymru, y Samariaid a Biwro Cenedlaethol y Plant. Mae’n meddu ar brofiad eang a gwerthfawr iawn mewn nifer o feysydd diddordeb.

Wrth benodi Dr Shooter, rwyf hefyd yn cyhoeddi ei lythyr cylch gorchwyl.  Pwrpas y llythyr hwn yw nodi’r meysydd cyffredinol yr hoffwn iddo edrych arnynt ac amlinellu’r fframwaith ar gyfer gwneud hynny. Y pedwar prif faes yw:
  • Swyddogaeth a chyfrifoldebau Comisiynydd Plant Cymru;
  • Effaith y swyddogaeth;
  • Adolygu’r ddeddfwriaeth;
  • Llywodraethu ac atebolrwydd.
Mae’n bwysig nodi bod yr adolygiad, a fydd yn adrodd yn ôl gydag argymhellion ym mis Rhagfyr, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Yn unol â hynny, rwyf wedi rhoi rhyddid i Dr Shooter benderfynu ar union fanylion yr adolygiad a’r dulliau o’i gynnal; serch hynny, rwyf wedi datgan yn glir fy mod yn disgwyl i’r adolygiad hwn gael ei gynnal drwy drafod ag ystod eang o randdeiliaid ac y dylai hynny gynnwys y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Rwy’n gwybod y bydd Dr Shooter yn cyhoeddi cais am dystiolaeth cyn bo hir a byddwn yn eich annog chi I gymryd rhan yn y brses bwysig hon. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn yr adroddiad terfynol ac at ystyried yr argymhellion gan Dr Shooter unwaith y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr.