Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (Deddf 2013) yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor fonitro’r cymunedau a’r trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau hynny yn ei ardal.

Mae’r adolygiadau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn adlewyrchu natur gyfnewidiol pob cymuned, ei phoblogaeth a’r cynlluniau ar gyfer ei datblygu, er mwyn sicrhau bod gan bob cymuned gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal.

O dan Ddeddf 2013, gall cyngor naill ai gynnal ei adolygiad cymunedau ei hun, neu gall gytuno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) gynnal yr adolygiad ar ei ran. O dan yr ail drefniant, mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno ei Adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru benderfynu yn eu cylch.

Mae’r Comisiwn wedi cwblhau adolygiad ar ran Cyngor Sir Benfro. Ar ôl ystyried yr Adroddiad a’r argymhellion, ynghyd â’r sylwadau a dderbyniwyd, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Benfro ddoe i’w hysbysu o'm penderfyniad y bydd y newidiadau a argymhellir yn yr Adroddiad yn cael eu gweithredu ar wahân i'r argymhelliad sy’n rhestru Ynys Bŷr ac Ynys Farged fel ward dref, gan ei bod yn rhan o ward etholiadol  De Dinbych-y-pysgod ac ni ddylai wedi cael ei gynnwys yn yr adolygiad.

Bydd gwaith yn cael ei wneud yn awr i fwrw ati i ddrafftio’r Gorchymyn sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r penderfyniad hwn. Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2027. 

Bydd angen ystyried a chynllunio’r paratoadau ar gyfer y trefniadau diwygiedig yn ofalus er mwyn sicrhau bod y broses o bontio o’r strwythurau presennol i’r trefniadau newydd yn mynd rhagddi’n ddirwystr. Rwyf wedi annog y Cyngor i ddechrau trafodaethau â’r cynghorau cymuned yn ardal y Sir cyn gynted â phosibl.